'Angen edrych ar dlodi tu hwnt i ddaearyddiaeth'

  • Cyhoeddwyd
Trowbridge
Disgrifiad o’r llun,

Ardal Trowbridge a Thredelerch yng Nghaerdydd sydd â'r nifer fwyaf o gartrefi yn y pedwar categori o dlodi

Mae angen sicrhau bod cymunedau tlotaf Cymru yn cael eu cefnogi yn ôl anghenion, nid ar sail eu lleoliad yn unig, medd melin drafod.

Daw galwad Sefydliad Bevan wrth i ffigyrau o'r cyfrifiad diweddaraf ddangos bod nifer o'r cartrefi tlotaf mewn rhannau o Gaerdydd a Chasnewydd.

Yn ôl dadansoddiad BBC Cymru o'r data diweddaraf, dim ond un o'r 10 cymuned fwyaf difreintiedig sydd yng nghymoedd y de.

Yn ôl Dr Steffan Evans o'r felin drafod, mae angen bod "lot fwy ymwybodol bod tlodi ym mhobman yng Nghymru".

Mae'r ffigyrau diweddaraf o'r cyfrifiad yn 2021 yn awgrymu bod y sefyllfa tlodi yng Nghymru wedi gwella yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf.

Fodd bynnag, mae dros hanner cartrefi'r wlad mewn un o bedwar categori sy'n cael eu defnyddio i fesur tlodi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen bod "lot fwy ymwybodol bod tlodi ym mhob man yng Nghymru," medd Dr Steffan Evans

Y pedwar mesur yw:

  • Cyflogaeth: Os nad oes unrhyw un yn y cartref mewn addysg, yn ddi-waith neu'n rhy sâl i weithio;

  • Addysg: Os nad oes gan unrhyw un yn y cartref bump TGAU neu fwy na chwaith bod unrhyw un rhwng 16 ac 18 mewn addysg llawn amser;

  • Iechyd ac Anabledd: Os yw iechyd unrhyw un yn y cartref yn 'wael' neu'n 'wael iawn', neu eu bod yn anabl;

  • Tai: Os yw'r cartref yn orlawn neu wedi'i wresogi'n wael.

Trwy ddefnyddio data o'r cyfrifiad, mae modd dadansoddi pa ardaloedd sydd â'r nifer uchaf o gartrefi sy'n rhan o'r pedwar categori.

Mae chwech o'r 10 uchaf yng Nghymru yng Nghaerdydd.

Ar frig y rhestr mae Trowbridge a rhan o Dredelerch (Rumney), ble mae 29 o gartrefi yn y pedwar categori.

Yn ôl pennaeth polisi Sefydliad Bevan, mae'r ffigyrau'n codi'r cwestiwn a yw'r awdurdodau a chymdeithas wedi bod yn edrych ar dlodi yn y ffordd anghywir.

"Wrth gwrs bod angen ffocysu ar yr ardaloedd hynny dy'n ni'n draddodiadol yn eu trafod [yng nghyd-destun tlodi], ond hefyd bod yn lot fwy ymwybodol bod tlodi ym mhob man yng Nghymru," meddai Dr Steffan Evans.

Ychwanegodd bod "angen i ni gymryd camau sy'n cefnogi pobl dim jyst yn ôl ble maen nhw'n byw ond hefyd yn ôl y ffactorau personol hynny sy'n rhoi pobl ar risg uwch o fyw mewn tlodi."

Ydy buddsoddi wir yn gwneud gwahaniaeth?

Yn ôl Dr Evans, mae mesur llwyddiant wrth geisio mynd i'r afael â thlodi yn fwy heriol wrth edrych ar y pwnc fel un daearyddol.

"Falle bo' ni'n gallu gwneud i ardal edrych yn fwy llewyrchus; buddsoddi mewn cyfleusterau newydd.

"Ond yw hynny wir yn gwneud gwahaniaeth i sefyllfa byw pobl? Cyflyrau pobl? Sut y mae pobl yn teimlo?"

Disgrifiad o’r llun,

Rhan o ardal Sblot yng Nghaerdydd sydd â'r ganran uchaf o blant sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim

Mesur arall sy'n cael ei ddefnyddio i fesur tlodi ydy faint o blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, mae'r cymunedau sydd â'r ganran uchaf o blant sy'n gymwys yng Nghaerdydd.

Rhan o ardal Sblot sydd ar frig y rhestr, gyda Threlái yn amlwg yn y 10 ardal sydd â'r ffigyrau uchaf hefyd.

Mae Ysgol Glan Morfa yng nghanol Sblot - yr ardal sydd ar frig y rhestr.

Yn ôl y pennaeth, Meilir Tomos, mae'r argyfwng costau byw yn cael effaith amlwg ar rieni plant yr ysgol.

Dywedodd fod rhieni yn cael "mwy o drafferth" wrth geisio talu am deithiau ysgol i'r plant.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r argyfwng costau byw yn cael effaith amlwg ar rieni, yn ôl Meilir Tomos

Ychwanegodd bod swyddog cymunedol yr ysgol yn cyfarfod yn gyson gyda rhieni ac yn aml yn rhoi cymorth a chyngor ar gyfer problemau costau byw.

"Mae yna o hyd rhyw ddiwrnod falle sy'n gofyn am gyfraniada' ond 'dan ni'n gorfod pwyso a mesur rŵan pa rai 'dan ni wir yn mynd ar eu hôl," meddai.

"[Rydyn ni] wedi gorfod cwtogi hefyd faint o bethau 'dan ni'n gallu ei wneud dros bethau fel elusennau o achos yr argyfwng costau byw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhiannon Hardiman fod ei theulu yn cymryd amryw o gamau er mwyn ceisio arbed arian

Mae Rhiannon Hardiman, sy'n byw yn lleol a gyda phlant yn yr ysgol, yn dweud eu bod nhw fel teulu yn cymryd nifer o gamau i leihau costau.

"Mae poteli dŵr poeth ganddon ni yn y gwlâu dros nos, er enghraifft, achos dyw'r tŷ ddim cweit mor gynnes," meddai.

Dywedodd bod ganddyn nhw lenni ar bob ffenestr ac ar ddrysau er mwyn ceisio cadw gwres i mewn.

"Ni'n prynu llai o gig, coginio prydau mewn un sosban a rhoi pethe yn y popty ar yr un amser i leihau faint o amser ni'n gorfod defnyddio'r nwy a'r trydan gyda'r cooker."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r argyfwng costau byw "wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r ffordd ni'n byw o ddydd i ddydd," medd Gethin Thomas

Ychwanegodd rhiant arall, Gethin Thomas: "Ni wedi gweld gwahaniaeth mawr pan ni'n siopa.

"Ni'n cadw golwg ar be' ni'n prynu yn fanna. Ni'n trio rhoi golau bant. Trio defnyddio llai o ddŵr.

"Mae [yr argyfwng costau byw] wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r ffordd ni'n byw o ddydd i ddydd."

Yn ogystal â'r amryw o ffynonellau cymorth er mwyn helpu'r bobl dlotaf trwy'r argyfwng costau byd, dywedodd Llywodraeth Cymru bod ganddyn nhw amryw o bolisïau sy'n "helpu i gadw arian ym mhocedi pobl".

Dywedodd llefarydd fod y rheiny'n cynnwys gofal plant am ddim, prydau ysgol am ddim a phresgripsiynau am ddim.