Canran uchel o ddyfroedd nofio Cymru yn rhagorol
- Cyhoeddwyd
Mae 99% o'r mannau nofio ar hyd arfordir Cymru sydd wedi cael eu hasesu o ran ansawdd y dŵr wedi cydymffurfio â'r safonau.
Roedd 85 o'r 106 o'r dyfroedd ymdrochi a gafodd eu gwerthuso yn y categori rhagorol.
Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi ailddatgan ymroddiad Llywodraeth Cymru i ddilyn rheolau safonau ansawdd dŵr y Comisiwn Ewropeaidd.
Am y tro cyntaf mae cymunedau wedi gallu gofyn am asesu'r mannau maen nhw'n eu defnyddio.
'Doedd dim atebion na data'
Dyna yn union y gwnaeth James Tennet ar ran 100 aelod y grŵp Dawnstalkers sy'n cwrdd ar draeth Penarth bob bore wrth iddi wawrio er mwyn nofio yn y môr.
Mae mwd yr aber yn amharu ar edrychiad y dŵr, ond mae ei ansawdd yn ei roi yn y categori uchaf.
"Doedd neb yn gwybod beth oedd ansawdd y dŵr - roedd yna amryw o atebion ond dim data," meddai.
"Roedd llawer mwy o bobl yn nofio. Meddyliais beth sydd angen ei wneud iddo gael ei ddynodi'n ddŵr ymdrochi, gwneud ychydig o ymchwil ac roedd yn llawer haws nag oeddwn wedi dychmygu.
"Mae yna fwd ond gallen ni ddim fod wedi gallu gobeithio am ganlyniadau gwell. Mae'n rhoi tawelwch meddwl.
"Mae nofio'n dod yn fwyfwy poblogaidd a ry'ch chi eisiau i'r amgylchedd fod yn ddiogel er mwyn annog mwy i nofio... mae'n wych o ran twristiaeth, ac o ran iechyd corfforol a meddyliol."
A hithau'n hanu o Ben Llŷn, roedd Mali Davies Hughes wedi arfer nofio "mewn dŵr clir a glas" cyn iddi ymuno â'r grŵp ym Mhenarth.
Mae nofio yn y môr yn ffordd o gyfarfod pobl, yn "tawelu'r meddwl" ac yn "neud i mi deimlo'n hapus".
Ac felly o weld "bod pobol yn dal i fynd i mewn yma" er y mwd yn y dŵr, fe ymunodd â nhw "ac mae'n teimlo'n iawn so 's na'm rheswm i beidio mynd".
Ond mae'r cadarnhad bod ansawdd y dŵr yn rhagorol wedi "'neud i mi deimlo'n well... a bod fi'n nofio mewn môr sy'n iach i ni".
Ychwanegodd: "Mae'n bwysig bo' ni ddim, yn cym'yd dim un fath o toxins a ballu i'n cyrff ni so ia, dwi'n meddwl bod o'n bwysig iawn."
Mae nofio ben bore, medd Nay Frank, "yn rhoi dos mawr o egni i chi am weddill y dydd - chi'n hynod o gynhyrchiol wedyn".
"Dros yr haf roedd yna rybuddion ynghylch ansawdd y dŵr mewn gwahanol fannau ond roeddan ni'n ffodus bod e wedi aros yn y categori gwyrdd.
"Ond dyw e ddim y dŵr mwyaf clir - chi methu gweld eich traed pan fo'r dŵr at eich ffêr."
Dywed Chelsea Smith bod nofio yn yr awyr agored "wedi newid fy mywyd", a'i fod yn ddechrau gwych i'r diwrnod hyd yn oed pan fo'r tywydd yn oer.
"Mae gen i sawl gwisg nofio nad sy'n wyn bellach tu mewn a ry'ch chi yn dyfalu beth y'ch chi'n nofio ynddo ond dyw e ddim yn fy atal i," meddai.
"Rwy'n nabod pobol sydd wedi cael salwch stumog wrth nofio neu syrffio mewn llefydd eraill.
"Mae'n destun pryder achos nid dim ond ni sy'n nofio yn y môr - mae plant yn gwneud hefyd yn yr haf."
Asesiadau eleni
Ymwelodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) â 106 o ddyfroedd dynodedig yn ystod y tymor ymdrochi eleni gan gasglu a dadansoddi samplau dŵr.
Maen nhw'n cael eu gosod wedyn mewn un o bedwar categori - rhagorol, da, digonol a gwael.
Cafodd 85 o'r 106 safle eu gosod yn y categori gorau bosib.
Marine Lake yn Y Rhyl, llyn morol sy'n cael ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfer chwaraeon dŵr, oedd yr unig safle yn y categori gwael.
Bydd pob un o'r 22 o draethau yng Nghymru a gafodd wobrau'r Faner Lân eleni nawr yn cael ymgeisio i gadw'r statws yn 2023.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, mai "sicrhau bod Cymru ar y brig o ran nofio gwyllt" yw'r nod.
"Rydyn ni eisiau dynodi mwy o ddyfroedd yng Nghymru - er enghraifft llynnoedd a chronfeydd dŵr - yn ddyfroedd ymdrochi, ac annog pawb o bob siâp, maint a gallu i roi eu dillad nofio amdanynt a mentro i ddyfroedd Cymru.
"Byddwn ni'n parhau i weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol gan ein bod yn credu bod yr ymdrech yn werth ei gwneud."
'Balchder ond mae mwy i'w wneud'
Yn ôl Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru mae gan Gymru "rai o'r traethau a'r dyfroedd ymdrochi gorau yn y DU".
"Rydym yn hynod falch o'r gwelliannau a welsom yn ein dyfroedd ymdrochi yn ystod y degawdau diwethaf, ac o weld y rhan fwyaf o'n dyfroedd ymdrochi yn bodloni meini prawf rhagorol unwaith eto eleni.
"Ond gwyddom fod mwy i'w wneud. Mae newid hinsawdd, llygredd a'r ffordd rydyn ni'n byw ein bywydau, i gyd yn heriau sy'n wynebu ein dyfroedd.
"Rhaid i ni fabwysiadu dull Tîm Cymru o weithio os ydym am wireddu ein huchelgais o gael y dyfroedd rydym eisiau eu gweld ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2022
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2022