Cwblhau clirio llanast Gerddi Bodnant wedi Storm Arwen
- Cyhoeddwyd
Flwyddyn ers i Storm Arwen achosi difrod eang yng Ngerddi Bodnant yn Nyffryn Conwy, mae'r gwaith o glirio'r llanast wedi ei gwblhau.
Yn gartref i nifer o blanhigion prin, fe gollodd yr ardd fyd-enwog 50 o goed mewn gwyntoedd cryfion ym mis Tachwedd 2021.
Ymhlith y colledion mwyaf trawiadol yr oedd coeden enfawr secwoia oedd, dros 150 o flynyddoedd, wedi tyfu i daldra o 50m ar lan afon Hiraethlyn yng ngardd goediog Y Glyn.
Bu'n rhaid cymryd toriadau ar frys o goed rhododendron prin hefyd er mwyn sicrhau eu bod yn goroesi.
Roedd Huw Edwards yn un o'r garddwyr ym Modnant a fu'n rhaid troi ei law at dorri, llifio a chario.
"Roedd o'n drist yn y dechrau'n enwedig, ond oedden ni jyst yn gorfod cario 'mlaen a clirio fo," meddai.
"Dwi'n nabod yr ardd 'ma'n dda so mae 'na hanes i'r coed 'ma - maen nhw wedi bod yma ers blynyddoedd.
"Mae o jyst yn drist gweld rheini yn disgyn achos allwn ni byth gael yr hanes yna yn ôl. Mae o'n drist."
Yr amcangyfrif ydy bod tua 300 tunnell o bren wedi ei golli o'r gerddi i gyd, gan gynnwys 100 tunnell o wreiddiau.
Fe ddaeth 50 tunnell o bren o'r goeden secwoia yn unig, yn ôl y staff, gyda dros 10 tunnell yn cael ei symud o'r gwreiddiau.
"Mae'n neis gweld yr ardd yn edrych yn fwy normal rŵan o gymharu â be' oedd o y diwrnod cyntaf yna.
"Rŵan 'dan ni angen dechrau meddwl am sut 'dan ni'n mynd i symud ymlaen a plannu rhododendron a coed eraill.
"Ond mae 'na waith trefnu a meddwl lle mae nhw i gyd yn mynd i fynd.
"'Dan ni i gyd yn edrych ymlaen i gael dechrau plannu, mae o'n reit ecseiting.
"Gobeithio mewn 100 mlynedd fydd 'na goed newydd i'w gweld."
Fe gostiodd y gwaith o glirio'r difrod yn Ngerddi Bodnant £200,000 i'r perchnogion, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Roedd yna gostau sylweddol ar safleoedd eraill ledled Cymru hefyd yn sgil Storm Arwen.
"'Dan ni wedi gorfod bod ar gau am rywfaint o'r flwyddyn," eglura Clare Williams o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
"'Dan ni wedi gwneud ein gorau i gael o'n ôl ar agor. Mae 'na gymaint o ymwelwyr yn dod yma ac yn siarad efo'r tîm lawr yn fa'ma ac yn deud bod nhw'n teimlo fo hefyd.
"A mae hynny wedi bod yn help i'r tîm yng Ngardd Bodnant i gael trwy hyn dros y flwyddyn diwethaf. Mae hynny wedi rhoi nerth iddyn nhw gario ymlaen."
Wrth gynllunio'r plannu fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf, mae'r staff nawr yn ceisio ystyried effeithiau posib newid hinsawdd gydag arbenigwyr yn darogan y bydd stormydd cryfion yn fwy tebygol yn y dyfodol.
"Mae o'n gwneud i ni feddwl mwy am be' 'dan ni'n plannu rŵan," medd Clare Williams.
"'Dan ni isio plannu ond lle 'dan ni'n rhoi nhw yn y dyfodol, mae hynny'n bwysig iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2020