Y Gynghrair Genedlaethol: York City 1-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
York Community StadiumFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Wrecsam fodloni ar bwynt yn York Community Stadium brynhawn Sadwrn

Roedd yn rhaid i'r Dreigiau fodloni ar bwynt wrth iddynt syrthio o frig y tabl.

Er mynd ar y blaen diolch i ymdrech wych gan Tom O'Connor wedi 88 munud, sicrhaodd Manny Duku bwynt i York City diolch i gôl hyd yn oed hwyrach.

Roedd O'Connor yn credu fod ei gic siswrn wedi sicrhau'r triphwynt i'r Dreigiau, ond roedd gôl Duku funud wedyn yn cael ei ddathlu yn Notts County yn ogystal â York wrth i Wrecsam syrthio i'r ail safle.

Cafodd y ddau dim gyfleon i ennill y gêm, gyda'r dau hefyd yn credu eu dylid wedi cael cic o'r smotyn.

Wedi eu buddugoliaeth o 4-1 yn Scunthorpe mae Notts County gyda pwynt o fantais ar y brig.