Gatland i gymryd lle Pivac fel prif hyfforddwr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Wayne Pivac, wedi gadael ei swydd yn dilyn cyfres o ganlyniadau siomedig, gyda Warren Gatland yn dychwelyd i gymryd ei le.
Mae Pivac yn gadael ar ôl colli tair o bedair gêm yng Nghyfres yr Hydref, gan gynnwys yn erbyn , dolen allanol ac yn erbyn Awstralia - a hynny ar ôl bod 34-13 ar y blaen.
Fe ddechreuodd y swydd yn 2019, gan gymryd yr awenau gan Gatland - fydd yn dychwelyd i'r swydd cyn y Nadolig.
Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, mae Cymru wedi colli 20 o'i 34 o gemau, gan gynnwys wyth eleni. Enillodd y tîm 13 o weithiau a chael un gêm gyfartal.
Daw'r penderfyniad gyda llai na blwyddyn i fynd at Gwpan Rygbi'r Byd 2023 yn Ffrainc.
Bydd Gatland yn gadael clwb y Chiefs yn Seland Newydd i ddychwelyd i hyfforddi Cymru - swydd yr oedd ynddi am 12 mlynedd o 2007.
Cafodd Pivac ei benodi yn niwedd 2019 - blwyddyn ble roedd Cymru wedi ennill y Gamp Lawn, wedi cyrraedd brig detholion y byd a gorffen yn bedwerydd yng Nghwpan y Byd yn Japan.
Ers hynny maen nhw wedi llithro i'r nawfed safle yn y detholion.
Ond doedd cyfnod Pivac wrth y llyw ddim yn ddrwg i gyd, gyda'r uchafbwyntiau yn cynnwys ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2021 a sicrhau'r fuddugoliaeth gyntaf erioed oddi cartref yn Ne Affrica.
'Canlyniadau yw ein busnes ni'
"Dyma un o'r penderfyniadau anoddaf i'w gwneud ym myd chwaraeon, ond mae'r adolygiad wedi dod i ganlyniad ac ry'n ni wedi ymateb yn gyflym er budd ein tîm cenedlaethol," meddai prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru (URC) Steve Phillips.
"Yn y pendraw, canlyniadau yw ein busnes ni, ac ry'n ni wedi cytuno gyda Wayne nad ydy Cymru ar y trywydd ry'n ni eisiau iddi fod.
"Ry'n ni'n diolch yn ddiffuant iddo am ei amser, brwdfrydedd, ymroddiad ac ymdrech fel prif hyfforddwr dros y tair blynedd ddiwethaf."
Ychwanegodd fod URC "wedi sicrhau gwasanaeth Warren am yr ychydig flynyddoedd nesaf, gyda'r gallu i fynd hyd at Gwpan y Byd 2027".
"Nid datrysiad dros dro ydy'r penodiad - mae'n rhan o'n cynlluniau tymor hir ar gyfer y gêm yng Nghymru," meddai Phillips.
"Gyda Warren ry'n ni'n cael un o'r hyfforddwyr gorau yn y gêm ryngwladol. Roedden ni'n drist i'w weld yn mynd pan adawodd, ac ry'n ni wrth ein boddau ei fod wedi cytuno i ddychwelyd.
"Ry'n ni'n ei adnabod yn dda, a bwysicaf oll, mae e'n ein 'nabod ni yn dda hefyd.
"Ry'n ni'n siŵr y bydd yn gallu cael effaith yn syth, fel y gwnaeth pan ymunodd â ni am y tro cyntaf."
'Trist iawn' gadael y rôl
Dywedodd Pivac ei fod "yn amlwg yn drist iawn" i adael ei rôl.
"Yn anffodus doedd y canlyniadau na'r perfformiadau eleni ddim beth oedden ni'n gobeithio amdano. Fel grŵp ry'n ni oll yn cymryd cyfrifoldeb dros hynny, ond fi yn enwedig fel prif hyfforddwr."
Ychwanegodd ei fod eisiau diolch i'r chwaraewyr, hyfforddwyr ac URC am eu cefnogaeth, "ac i'r holl bobl yng Nghymru sydd wedi gwneud i mi deimlo'n gartrefol yma dros yr wyth mlynedd ddiwethaf".
Dywedodd Gatland ei fod yn "edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i hyfforddi Cymru".
"Dyma gyfle i gyflawni rhywbeth gyda grŵp talentog o chwaraewyr mewn gwlad sydd mor angerddol am rygbi," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2022