Cyfres yr Hydref: Cymru 12-13 Georgia

  • Cyhoeddwyd
Wales v GeorgiaFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd yna siom i dîm Wayne Pivac yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn wrth i Georgia drechu Cymru am y tro cyntaf erioed.

Luka Matkava a gipiodd y fuddugoliaeth i'r ymwelwyr a hynny wedi cic ddwy funud cyn diwedd y gêm.

Georgia a sgoriodd y pwyntiau cyntaf wedi cic gan Tedo Abzhandadze ym munudau cynta'r gêm ond cyn pen hanner awr roedd Jac Morgan wedi sgorio dau gais i Gymru ac roedd y sgôr yn 12-3 ar hanner amser.

Gwaethygu wnaeth y sefyllfa i Gymru weddill y gêm - wedi 52 munud roedd Cymru lawr i 14 dyn am 10 munud wedi i Alex Cuthbert gael ei gosbi am herio dyn yn yr awyr.

Ar ben yr awr roedd yna gais i Georgia ac wedi trosiad llwyddiannus roedd y sgôr yn 12-10.

Wedi 78 munud fe wnaeth cic lwyddiannus Matkava sicrhau'r fuddugoliaeth i Georgia - ergyd i'r Cymry yn eu trydedd gêm yng Nghyfres yr Hydref.

Yr wythnos nesaf fe fydd Cymru yn wynebu Awstralia.

Pynciau cysylltiedig