Beth yw'r heriau sy'n wynebu cymunedau Cymraeg?

  • Cyhoeddwyd
Pistyll
Disgrifiad o’r llun,

Mae protestiadau cyson wedi'u cynnal dros y blynyddoedd diwethaf yn galw am fynd i'r afael ag ail gartrefi

Mae ymchwilwyr wedi lansio ymgyrch am dystiolaeth fel rhan o'u gwaith yn archwilio'r heriau sy'n wynebu cymunedau Cymraeg, a sut mae sicrhau eu ffyniant at y dyfodol.

Yn gynharach eleni fe sefydlwyd comisiwn newydd gyda'r bwriad o edrych ar feysydd fel tai, twristiaeth, yr economi, amaeth ac addysg.

Fel rhan o'u gwaith mae'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg nawr yn galw am dystiolaeth gan fudiadau a'r cyhoedd ar draws Cymru.

Bydd yr ymchwil yn bwydo i mewn i argymhellion y comisiwn a fydd yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn y man.

'Ystyried pob syniad yn ofalus'

Dywedodd Cadeirydd y Comisiwn, Dr Simon Brooks, eu bod yn chwilio am farn ar ystod eang o faterion sy'n effeithio ar gymunedau Cymraeg, o dai ac addysg i ddatblygiad cymunedol ac adfywio.

"Dan ni am roi cyfle i bawb ddweud eu dweud am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Simon Brooks bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg "yn edrych ar bolisi cyhoeddus ym mhob maes"

"Bydd tystiolaeth a syniadau sy'n cael eu cyflwyno i ni yn hanfodol wrth i ni weithio ar ein hargymhellion fel comisiwn.

"Dwi'n annog cymaint o bobl â phosib i gymryd rhan, a dwi'n addo y bydd pob syniad yn cael ei ystyried yn ofalus."

'Heriau wedi cynyddu'

Ychwanegwyd fod cryfhau cymunedau Cymraeg yn ganolog i strategaeth Llywodraeth Cymru o ddyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Mae'n hanfodol bod ein cymunedau yn gryf ac wedi'u diogelu fel y gall Cymraeg ffynnu.

"Mae'r heriau sy'n wynebu cymunedau Cymraeg wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n siŵr y bydd gan lawer o bobl farn ac awgrymiadau ar gyfer newid hyn.

"Bydd yr adroddiad hwn yn werthfawr er mwyn gweld sut bydd yr economi, penderfyniadau polisi a demograffeg yn effeithio ar ddyfodol Cymraeg yn ein cymunedau."

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion, dolen allanol yw 13 Ionawr 2023.