Alaw Llwyd Owen: Ysbrydoli eraill ar ôl damwain car
- Cyhoeddwyd

Alaw Llwyd Owen
Yn dilyn damwain car bedair blynedd yn ôl, mae bywyd Alaw Llwyd Owen wedi newid yn llwyr. Mae'r ferch 34 oed yn dod o Landdoged yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Ninbych, ac mae wedi penderfynu defnyddio ei phrofiadau i annog pobl i feddwl am eu cryfderau a'u nerth meddyliol.
Roedd Alaw ar ei ffordd adref o'r gwaith yn y Bala pan ddigwyddodd y ddamwain ar yr A453 ger Dinbych, ar yr 2 Hydref, 2018. Roedd yn rhaid iddi gael ei thorri'n rhydd o'r car a bu iddi ddioddef anafiadau a newidiodd ei bywyd.
Mae wedi bod yn trafod hyn ar bennod o raglen Radio Fa'ma, sy'n gynhyrchiad i S4C gan Cwmni Da, lle mae'n cael ei holi gan Tara Bethan a Kristopher Hughes. Yn y cyfweliad, mae'n trafod yr heriau mae wedi eu wynebu yn ystod ei hadferiad, yn ogystal â'i chynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Alaw wrth Cymru Fyw nad yw hi'n gweld trafod ei phrofiadau yn hawdd bob tro:
"Mae rhywun yn gorfod bod yn warchodol ohonyn nhw eu hunain, achos mae ail fyw unrhyw fath o ddigwyddiad yn gallu codi bwganod a chodi teimladau anghyfforddus.
"Dydi o ddim yn dod yn naturiol i mi. Ar ddiwedd y dydd, realiti fy sefyllfa i ydi o, a weithiau pan ti'n ei drafod o mae'n swnio fel dy fod di'n adrodd stori neu'n siarad am rywun arall.

Alaw Llwyd Owen
"Mae'r anafiadau a'r rhwystredigaethau 'nes i eu profi yn dod ar fy nhraws i'n ddyddiol, mae o'n rhan o fy stori i, ond pan ti'n siarad hefo pobl eraill, 'mond hyn a hyn o bobl sy'n gallu uniaethu hefo chdi.
"O'n i'n gwbod bo' fi mewn dwylo saff hefo Tara a Kris hefyd. Er tegwch iddyn nhw, naethon nhw ddim fy mherswadio i ddweud dim byd oedd yn teimlo'n anghyfforddus. 'Nes i allu siarad am be' o'n i'n gyfforddus hefo fo."

Alaw gyda Tara Bethan a Kristoffer Hughes
Sefydlu platfform ar-lein
Un o'r pethau a benderfynodd Alaw wneud wrth wella o'i hanafiadau oedd canolbwyntio ar yr hyn roedd hi'n gallu ei wneud, nid yr hyn roedd hi wedi ei golli.
Meddai: "Be wnes i orfod ei wneud oedd anwybyddu'r ochr negyddol drwy'n adferiad i, ac edrych ar beth oedd gen i. Mae hynny'n bwydo mewn i dy gryfder di a chryfder dy feddwl di."
Drwy hynny, cafodd ei hysbrydoli i sefydlu platfform ar-lein o'r enw Nerth Dy Ben, sy'n rhoi gofod i bobl drafod eu cryfderau a'r hyn sydd yn eu gwneud yn unigryw.
"'Nes i sylweddoli mai 'chydig iawn o le sydd yna i drafod hunan-werth a hunanhyder, ac i ysbrydoli pobl eraill i berchnogi eu cryfderau nhw, i ganolbwyntio ar be' maen nhw'n gallu ei wneud, ac nid be' dydyn nhw ddim yn gallu ei wneud.
"Dydi o ddim yn ymwneud hefo fy mhrofiad penodol i yn unig. Mae Nerth dy Ben yn rhywbeth allai pawb uniaethu hefo fo ar unrhyw lefel. Ti'm yn gorfod mynd drwy rywbeth eithafol.
Datblygu'r prosiect ymhellach
Mae'r ymateb mae Nerth dy Ben wedi ei dderbyn wedi ysbrydoli Alaw i ddatblygu'r hyn maen nhw'n ei gynnig yn y dyfodol.

Un o weithdai ysgol Nerth Dy Ben
"Ar y dechrau mi'r oedd yr ymateb yn hynod gefnogol. Rŵan rydyn ni wedi dechrau mynd mewn i wneud gweithdai, ac mae'r ymateb i'r rheiny wedi bod yn anhygoel.
"Mae wedi bod yn braf ymchwilio, arbrofi a gweithio hefo pobl ifanc a phobl hŷn yn ymwneud â'r pwnc yma.
"Beth sydd wedi fy nharo fi ydi pa mor anodd 'da ni'n ei weld o i edrych ar y pethau sydd yn anhygoel amdana' ni fel unigolion. Dydi o ddim yn sgwrs hawdd.
"Mae 'na ddigwyddiadau a phodlediadau da ni'n gobeithio eu rhoi mewn lle ar gyfer flwyddyn nesaf. 'Da ni wedi gwneud un digwyddiad rhithiol yn y gorffennol hefo Nic Parry, Lowri Morgan a Richard Jones y pencampwr byd mewn cneifio.
"Ein bwriad ni hefo pethau felly ydy cydnabod gweithgarwch cymunedol sydd hefo lot o werth iddo fo, a'r ffordd 'da ni'n gwneud hynna ydi dod â rhywun sy'n cael ei gydnabod ar lefel ryngwladol am gamp, am grefft neu sgil, ac wedyn cyplysu hwnna hefo rhywbeth cymunedol sy'n digwydd ar lawr gwlad. Gobeithio wedyn ein bod ni'n sylweddoli gwerth y pethau yna yn ein cymdeithas ni hefyd."
Dyma oedd gan Alaw i'w ddweud ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru:
Alaw Llwyd Owen yn ysbrydoli eraill ar ôl damwain car