'Staff yn eu dagrau' - golwg ar y pwysau ar unedau brys

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlansys tu allan i Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa y tu allan i Ysbyty Brenhinol Morgannwg nos Iau - ble roedd nifer o ambiwlansys yn aros y tu allan i drosglwyddo cleifion

Cleifion sâl iawn yn cael eu trin mewn cadeiriau, staff yn eu dagrau ac un claf yn gorfod aros 18 o oriau cyn cael ei drosglwyddo o ofal criw ambiwlans.

Dyma rai enghreifftiau o'r pwysau aruthrol mae uned frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi'i brofi eisoes y gaeaf hwn.

Yn ddiweddar fe fu'n rhaid i'r ysbyty agor dwsinau o welyau sydd fel arfer yn cael eu neilltuo ar gyfer argyfwng er mwyn ymdopi â'r pwysau.

Ond mae hynny hefyd yn her oherwydd prinder staff mewn sawl adran.

Ein gohebydd iechyd Owain Clarke sydd wedi cael mynediad arbennig i'r ysbyty i weld y straen ar y system gyfan â'i lygaid ei hun.

Mae'n 08:00 yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac rwyf wedi cael gwahoddiad i ymuno â staff ar gyfer cyfarfod cyntaf y dydd.

Fel mae'n digwydd, maen nhw'n trafod sut i ymateb i un o'r diwrnodau mwyaf heriol maen nhw wedi'i brofi hyd yma y gaeaf hwn.

"Roedd bron i 40 o gleifion yn yr uned frys ddechrau bore ddoe a tua 12 wedi bod yn aros dros 24 awr," meddai Andrea Evans, sy'n brif nyrs yn gweithio ar un o wardiau'r ysbyty.

"Ni'n edrych am unrhyw welyau i agor er mwyn lleihau'r pwysau ar yr uned frys."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynrychiolwyr o bob adran a ward yn ceisio dod o hyd i gleifion fyddai'n saff i'w rhyddhau o'r ysbyty i leihau'r pwysau ar y system

Cymaint oedd y straen yn ystod y 24 awr cyn i fi ymweld bu'n rhaid i'r ysbyty agor dwsinau o welyau ychwanegol, sydd fel arfer yn cael eu cadw ar gyfer argyfwng.

Ond mae agor y rheiny yn her yn ei hun, o ystyried fod nifer o'r wardiau arferol eisoes yn brin o staff.

"Mae agor capasiti ychwanegol yn cael knock-on effect anferth," medd Ms Evans.

"Mae'r wardiau yn barod yn gweithio yn short-staffed a ni'n rhoi mwy o bwysau arnyn nhw.

"Ma' staff wedyn yn gorfod symud i ardaloedd nad ydyn nhw'n gweithio ynddyn nhw fel arfer."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrea Evans fod tua 12 o gleifion wedi aros dros 24 awr yn yr uned frys y diwrnod cynt

Felly y bore 'ma mae cynrychiolwyr o bob adran a ward yn ceisio dod o hyd i gleifion fyddai'n saff i'w rhyddhau o'r ysbyty, ond maen nhw'n brin.

Os yw ysbyty'n llawn, yna buan iawn y bydd staff yn yr uned frys yn teimlo'r effaith.

Wrth i fi ymweld â'r uned frys dywedodd y meddyg sy'n arwain yr adran wrtha i fod yr uned wedi bod dan ei sang y diwrnod cynt, a rhai o'r staff yn eu dagrau.

16 troli, 28 claf

"Fe wnaeth y prif nyrs oedd ar ddyletswydd dros nos fy ffonio, a dyw hi erioed wedi fy ffonio o'r blaen," medd Dr Amanda Farrow.

"Felly o'n i'n gwybod, pan dwi'n cael yr alwad ffôn yna, dwi jyst angen codi a dod i mewn.

"Mae gennym ni 16 troli yn yr adran ac roedd gennym ni 28 claf yn aros am welyau ben bore.

"Roedd ein hystafell aros yn llawn, a chleifion sâl iawn, iawn i gyd yn cyrraedd ar yr un pryd.

"Roedd rhai cleifion sâl iawn yn eistedd mewn cadeiriau, sydd ddim yn brofiad da... a nifer o aelodau staff yn eu dagrau.

"Pan y'n ni'n orlawn, mae'n golygu nad ydyn ni'n gallu derbyn cleifion o'r ambiwlansys... ac un claf oedd yn aros 18 awr i ddod oddi ar yr ambiwlans."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Amanda Farrow mae "nifer o aelodau staff yn eu dagrau"

O ganlyniad, roedd y gwasanaeth ambiwlans yn cael trafferth ymateb i alwadau 999 brys yn y gymuned.

"Ddoe yn ystod fy shifft fe gawson ni ddwy alwad yn gofyn i ni ryddhau ambiwlans ar unwaith... oherwydd roedd babi'n sâl ac roedd menyw yn rhoi genedigaeth," meddai Dr Farrow.

"[Gyda] yr un cyntaf wnaethon ni lwyddo i ryddhau ambiwlans... ond gyda'r [alwad] hwyrach doedden ni ddim yn gallu rhyddhau.

"Diolch byth fe lwyddodd y gwasanaeth ambiwlans ddod o hyd i ambiwlans arall.

"Mae'n lot o gyfrifoldeb i'r staff - does dim un ohonon ni am orfod gwneud penderfyniadau yma."

'Dy'n ni ddim wedi stopio'

Ond dyw'r pwysau ddim yn anarferol, yn ôl Fiona Jones, nyrs sydd wedi bod yn gweithio yn yr uned frys am flynyddoedd.

"Mae'n debyg bob dydd. Dyw hi ddim yn aml yn dawel ac yn aml iawn ma' pobl yn aros amser hir iawn," meddai.

"Fel heddi' nawr - fi yw un o'r nyrsys yn recussitation a dy'n ni ddim wedi stopio na chael dishgled o de hyd yn oed."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n debyg bob dydd. Dyw hi ddim yn aml yn dawel," meddai Fiona Jones

Un o'r problemau mwyaf yw llif, neu, yn fwy penodol, ddiffyg llif cleifion drwy'r ysbyty i gyd.

Mae unedau brys yn llenwi pan fo mwy o gleifion sâl yn cyrraedd nag oes 'na le iddyn nhw ar wardiau.

Ond mae'r wardiau yn aml yn llawn oherwydd bod cleifion sy'n feddygol iach i adael yn methu oherwydd prinder gofal neu ofalwyr yn y gymuned.

Dim gofal yn y gymuned i gleifion

Wrth ymweld ag un o wardiau'r ysbyty tuag amser cinio fe ges i sgwrs â Maria Davies, y nyrs sy'n goruchwylio tair o'r wardiau meddygol.

"Mae 40% o'r gwlâu fan hyn wedi llenwi â chleifion sydd yn ddigon iach yn feddygol i fynd adref, ond maen nhw'n aros am ofal," meddai.

"Dy'n nhw chwaith ddim eisiau bod yn aros yma mor hir."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Maria Davies fod tua 40% o welyau yn cael eu cymryd gan bobl sy'n ddigon iach i fynd adref

Yn ôl y meddyg ymgynghorol Dr Dai Samuel, mae'r sefyllfa yn codi cwestiynau mawr am allu'r gwasanaeth iechyd nid yn unig i ofalu am gleifion brys ond hefyd i drin cleifion sy'n disgwyl triniaethau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw.

"Mae'r pwysau yn enfawr. Mae'r drws blaen yn orlawn a'r drws cefn ddim ar agor i adael digon allan o'r system," meddai.

"Dwi 'di gweld claf y bore 'ma oedd angen triniaeth ond does dim gwely ar ei gyfer... felly rhaid i ni ohirio tan yr wythnos nesaf neu'r wythnos ganlynol.

"Ma' hwnna'n drist i fi, ond yn ei wneud e'n grac... ac y'n ni'n gweld hynny yn y gymuned a chleifion yn colli amynedd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Dai Samuel eu bod yn aml yn gweld cleifion yn "grac" ac wedi "colli amynedd"

Erbyn canol y prynhawn mae'r straen yn yr uned frys yn cynyddu unwaith eto.

Pan fo hynny'n digwydd mae staff profiadol fel Fiona Jones yn teimlo dyletswydd i warchod staff iau cymaint ag y bo modd.

"Wy'n trio bod mor gefnogol iddyn nhw ag y galla i a jyst gwneud yn siŵr eu bod nhw'n iawn - hyd yn oed pan fo'r pwysau'n enfawr."

Yn ystod fy ymweliad fe weles i staff proffesiynol ar draws yr ysbyty yn ceisio'u gorau mewn amgylchiadau hynod o heriol.

Ond y cwestiwn yw, ag wythnosau caleta'r gaeaf yn dal i ddod, beth fydd yr effaith arnyn nhw ac ar wasanaeth sydd eisoes yn ymddangos ar ei liniau?