Cadeirydd BMA: 'Mae'r blaidd yma, mae'n ddifrifol'
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd BMA Cymru yn rhybuddio fod y "Gwasanaeth Iechyd nawr yn wynebu argyfwng 'dan ni erioed wedi'i weld o'r blaen".
"Dros y blynyddoedd mae pobl wedi bod yn dweud bod y blaidd wrth y drws gan nad oes digon o staff neu adnoddau ond nawr mae'r blaidd yma," meddai Dr Iona Collins.
"Mae'r amser y mae cleifion yn gorfod aros i gael triniaeth frys a thriniaethau eraill - dyw e ddim yn ddigon da.
"Mae'n storm berffaith wedi'r pandemig - does dim digon o staff nag adnoddau. Mae'n sefyllfa ddifrifol. Dyw pobl ddim yn saff nawr. Mae hwn yn argyfwng."
Daw sylwadau Dr Collins wrth i nifer o feddygon eraill ddweud bod gweld y Gwasanaeth Iechyd yn methu cwrdd â gofynion yn torri eu calonnau.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn deall y rhwystredigaethau a bod cynllun tymor byr yn cael ei ddatblygu er mwyn delio â'r pwysau presennol.
Mae llawer iawn o feddygon yn sôn am y pwysau ac mae'r cyfan yn cael effaith ar eu hiechyd meddwl, medd Dr Collins.
"Dyw e ddim yn dderbyniol i bethau bara ymlaen fel maen nhw ar hyn o bryd. Mae angen mwy o arian ar gyfer adnoddau a phrynu staff," meddai.
"Nawr does dim digon o staff ac mae ysbytai yn defnyddio agency staff sydd yn ddrud ofnadwy."
Ychwanegodd bod niferoedd staff yn edrych yn iawn ar bapur o bosib, ond bod nifer bellach ddim yn gweithio'n llawn amser er lles eu hiechyd.
"Fe ddewison ni weithio i'r gwasanaeth iechyd er mwyn helpu pobl eraill, ond ar ddiwedd y dydd dim ond pobl ydyn ni hefyd ac mae 'na bwynt yn dod lle mae'ch iechyd chi a'ch bywoliaeth chi fel staff meddygol yn dioddef.
"Ry'n ni'n caru'r gwasanaeth iechyd ond nawr dyw'r GIG ddim yn gweithio."
Dywed Nicky Leopald, geriatregydd ymgynghorol o Abertawe, ei bod hi wedi dechrau cwestiynu beth yw ei dyfodol yn y Gwasanaeth Iechyd.
"Weithiau fi'n meddwl na allai gario 'mlaen," meddai. "Fel mae pethau ar hyn o bryd, dyw hi ddim yn bosib i neb gario 'mlaen.
"Bob dydd ry'n ni'n trio dod o hyd i ffyrdd fwy effeithiol o weithio ond dyw hi ddim yn bosib gwneud mwy.
"Mae'r holl staff o'm cwmpas yn gadael, mae staff yn llefain... ond mae hynny yn gadael y gwasanaeth mewn lle gwaeth."
'Cwbl dorcalonnus'
Ychwanegodd Dr Leopald bod ei chleifion oedrannus yn wynebu "amseroedd hir anodd" cyn cael eu derbyn i ysbyty.
Mae'r profiadau "ofnadwy" yna, meddai, yn digwydd yn rhy aml i bobl sydd ag afiechydon difrifol a chanser, gyda rhai yn ofni ffonio am ambiwlans.
Dywedodd mai un o'r rhwystrau pennaf ydy nad yw ysbytai yn gallu rhyddhau cleifion yn sgil diffyg gofal cymdeithasol.
Mae'r rhai sydd yn yr ysbyty am fwy nag wythnos yn colli eu pecyn gofal - sefyllfa "gwbl dorcalonnus".
"Os yw hi wedi cymryd wyth neu naw diwrnod iddyn nhw ddod yn well a'u bod yn barod i fynd adref, mae'n rhaid iddyn nhw fynd i gefn y ciw a disgwyl am becyn arall o gymorth.
"Fe all hynny gymryd sawl mis."
Mae Tim Appanna, 52, yn wrolegydd ymgynghorol, a dywed bod prinder staff mewn sawl adran yn cael effaith fawr ar ei waith.
"Yn llythrennol ry'n ni ond yn gallu gweld cleifion canser a rhai brys," meddai.
"Mae cleifion eraill yn mynd i orfod aros am gyfnod hir iawn cyn iddyn nhw gael eu gweld a phetai nhw angen triniaeth, fe fyddan nhw'n aros hyd yn oed yn hwy.
"Rwyf yn y swydd hon am fy mod am wneud y gorau dros fy nghleifion ond mae'r cyfan yn anghredadwy o rwystredig pan dwi'n gwybod y gallwn gyflawni'r swydd yn well."
Dywedodd un aelod o staff y GIG, sydd am fod yn ddienw, bod pwysau cynyddol yn ystod cyfnod prysur y gaeaf yn golygu rhoi dau glaf mewn ciwbicl yn lle un.
"Mae aros 12-14 awr mewn adran frys bellach yn norm," meddai, "ac yn anffodus mae defnyddio coridorau, fel ag a wnaed yn ystod Covid, wedi ailddechrau.
"Does yna ddim lle i weld cleifion ac mae'r rhai sydd angen triniaeth frys yn gorfod eistedd mewn ystafell aros ar gadeiriau."
Llywodraeth wedi buddsoddi mwy
Fis diwethaf yn Yr Alban fe ddaeth i'r amlwg bod arweinyddion iechyd yn trafod gwasanaeth iechyd dwy radd - gyda phobl gyfoethog yn talu am driniaeth.
"Er nad yw hynny yn apelio," meddai Mr Appanna, "mae'n bosib bod hyn yn anorfod."
"Bachgen o'r cymoedd ydw i. Fe ges i fy ngeni a'm magu yng Nghymru ac rwy' wedi buddsoddi yn drwm yn y GIG ond mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau.
"Os nad ydyn ni'n gallu sicrhau gofal iechyd i'n cleifion, yna mae'n rhaid i ni ystyried be' arall rydyn yn gallu ei wneud."
Dywed Llywodraeth Cymru bod cynllun tymor byr yn cael ei ddatblygu i ddelio â'r pwysau presennol sydd ar staff y GIG, a bod y cynllun hwnnw yn ychwanegol i'r strategaeth gweithlu sy'n bodoli eisoes.
Dywedodd llefarydd: "Ry'n yn gwerthfawrogi'n fawr ymrwymiad diflino staff i wasanaethu'r cyhoedd ac yn deall eu rhwystredigaethau.
"Mae mwy o staff yn gweithio yn GIG Cymru nag erioed o'r blaen ac eleni ry'n ni wedi buddsoddi mwy o arian mewn hyfforddiant ac addysg broffesiynol - £262m - gan gynnwys mwy o leoedd hyfforddi nag erioed o'r blaen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2022
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022