'Oriau coll' ambiwlansys yn treblu mewn dwy flynedd
- Cyhoeddwyd
Mae nifer yr oriau y mae ambiwlansys wedi gorfod treulio y tu fas i ysbytai Cymru cyn trosglwyddo cleifion wedi mwy na threblu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Ym mis Hydref fe fu'n rhaid i ambiwlansys aros 28,143 o oriau oherwydd bod unedau brys yn llawn - y nifer fwyaf erioed.
A phan fo hynny'n digwydd dyw'r criwiau ddim yn gallu ymateb i alwadau brys eraill yn y gymuned.
Y llynedd fe rybuddiodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, dolen allanol bod oedi o'r fath yn digwydd yn llawer rhy aml.
Ond mae'r ystadegau swyddogol yn dangos fod "oriau coll" ambiwlansys wedi cynyddu'n sylweddol hyd yn oed ers hynny.
Fe gofnodwyd hefyd yr amseroedd ymateb gwaethaf erioed gan y gwasanaeth ambiwlans - 48% mewn ymateb i'r galwadau 999 mwyaf brys.
Golwg fanylach ar ystadegau mis Hydref
Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi cofnodi dros 20,000 o oriau o oedi cyn trosglwyddo cleifion ym mhob mis ond un yn ystod 2022.
Mae hyn yn cyfateb i un ambiwlans yn aros tua 1,000 o ddiwrnodau y tu fas i ysbyty.
Ym Mis Hydref - dim ond 15.8% o gleifion gafodd eu trosglwyddo i ofal yr ysbyty o fewn y targed amser o 15 munud i'r ambiwlans gyrraedd - y ffigyrau gwaethaf ers dechrau cyhoeddi'r ystadegau yn 2016.
Cofnodwyd y nifer gwaethaf erioed o ran "oriau coll" ymhob bwrdd iechyd, heblaw am ardal Caerdydd a'r Fro. Fe gofnododd bwrdd iechyd y gogledd, Betsi Cadwaladr dros 8,000 o oriau coll.
Mae cyfran uwch o gleifion wedi bod yn cyrraedd unedau brys dan eu pwysau eu hunain - naill ai mewn car neu dacsi.
Yn y pedair blynedd cyn Covid fe welodd unedau brys Cymru dros 1 miliwn o gleifion y flwyddyn. Gostyngodd y ffigyrau yn ystod y pandemig, ond bellach maen nhw bron â bod yn ôl i'r un lefel.
Cafodd y ffigyrau gwaethaf erioed o ran faint o gleifion sydd wedi aros dros 12 awr mewn uned frys eu cofnodi yn ystod 9 o'r 10 mis diwethaf, ac mae ffigwr mis Hydref - dros 11,000 - yn torri'r record unwaith yn rhagor.
Yr amser cymedrig (mean) ar gyfer arhosiad mewn uned frys oedd pum awr 41 munud.
Y ffigyrau diweddaraf o ran amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans i'r galwadau mwyaf difrifol yw'r gwaethaf erioed i'w cofnodi gan y gwasanaeth ambiwlans gyda 48% o ymatebion i'r galwadau mwyaf difrifol yn cyrraedd o fewn 8 munud.
Yn ôl targed Llywodraeth Cymru fe ddylai 65% o ymatebion gyrraedd o fewn y cyfnod hwn.
Dadansoddiad Gohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke
Dyw'r broblem o ambiwlansys yn treulio cyfnodau rhy hir yn aros i drosglwyddo'u cleifion ddim yn bwnc newydd.
Saith mlynedd yn ôl, fe wnes i adrodd bod ambiwlansys yng Nghymru wedi treulio 40,000 o oriau yn sownd y tu fas i unedau brys yn ystod 2014.
Ond cyfanswm yr oedi dros flwyddyn gyfan oedd hynny.
Bellach mae ambiwlansys yn aros am fwy na hynny mewn cyfnod o lai na deufis.
Yr hyn sydd wrth wraidd y broblem yw diffyg llif cleifion trwy'r system gofal a iechyd sy'n golygu fod ein hysbytai mawr yn orlawn.
Os nad oes digon o bobl yn gadael yr ysbytai, oherwydd diffyg gofal cymdeithasol er enghraifft, yna mae'r wardiau'n llenwi.
Os nad oes lle ar y wardiau mae unedau brys yn llenwi.
Os nad oes lle mewn uned frys mae cleifion yn aros mewn ambiwlansys.
Os yw ambiwlansys yn sownd tu fas yna allan nhw ddim ymateb i alwadau eraill - mae cleifion yn gorfod aros oriau cyn bod criw yn cyrraedd ac mae hynny hefyd yn peryglu cleifion.
Yn y cyfnodau pan oedd tonnau Covid ar eu huchaf, roedd unedau brys yn gymharol wag ac oriau coll ambiwlansys yn isel iawn. Bryd hynny efallai roedd pobl yn ofni mynd i'r ysbyty ac yn dewis aros adref.
Ond mae'r galw hwnnw wedi dychwelyd, ar adeg hefyd pan fo'r gwasanaeth iechyd yn ceisio mynd i'r afael â rhestru aros anferth.
A hynny oll pan fo grwpiau iechyd yn cwyno am brinder difrifol o staff.
'Pawb yn gweithio'n galed'
"Rwy' wedi gweithio yn y gwasanaeth iechyd am dros 40 mlynedd a dyma'r pwysau mwyaf i ni wynebu erioed," meddai Stephen Harrhy, Prif Gomisiynydd Gwasanethau Ambiwlans Cymru.
"Pan mae'r system dan y fath bwysau, dydyn ni ddim yn rhedeg mor effeithiol ag y dyliwn ni.
"Fedra'i ddim cyfiawnhau nifer yr oriau ambiwlans sy'n cael eu colli tu allan i'r ysbyty."
Dywedodd bod mwy o adnoddau'n cael eu darparu ond does dim "ffon hud".
"Rwy'n credu bod pawb yn cydnabod yr angen i reoli'r llif - wrth ddrws gefn yr ysbyty a chyn cyrraedd y drws cefn," ychwanegodd.
"Dyna un o'r pethau allweddol mae'n rhaid i ni ddelio ag e, ac mae pawb yn gweithio mor galed â phosib i sicrhau ein bod yn gwneud hynny."
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod nad yw perfformiad y gwasanaeth ambiwlans "yr hyn rydym yn disgwyl iddo fod". Ond dywedodd llefarydd eu bod yn gweithredu gwelliannau, yn cynnwys:
ehangu gwasanaethau gofal brys yr un diwrnod i saith diwrnod yr wythnos;
rheoli galwadau'n well i leihau'r nifer sydd angen mynd i'r ysbyty; a
phenodi mwy o staff.
"Heb hyn oll fe fyddai'r pwysau ar y system yn waeth byth," ychwanegodd y llefarydd.
Heriau'r gweithlu
Mae sefydliadau sy'n cynrychioli staff y gwasanaeth iechyd yn rhybuddio fod bylchau mawr yn y gweithlu yn cynyddu'r pwysau ar wasanaethau ymhellach.
Mae 36 o gyrff iechyd wedi ysgrifennu llythyr at y Prif Weinidog Mark Drakeford yn mynegi pryder fod problemau recriwtio a chadw staff yn cael effaith aruthrol.
Yn ôl y grwpiau mae'r gwasanaeth iechyd a'i staff yn wynebu gaeaf "hynod o ddiflas" ac o ganlyniad maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth gynhwysfawr yn amlinellu sut i lenwi bylchau.
Yn y llythyr dywedodd y grwpiau: "Mae heriau difrifol yn ein hwynebu wrth agosáu at aeaf anodd.
"Mae gwir angen cynllun gweithlu cenedlaethol hirdymor ar gyfer cynyddu nifer staffio ar draws pob proffesiwn ac arbenigeddau i ostwng rhestrau aros.
"Ni ellir tanbrisio effaith prinder gweithlu ar ofal cleifion wrth i'r amseroedd aros gyrraedd y lefelau uchaf erioed yng Nghymru."
'Gwneud sefyllfa anodd yn waeth'
Dywedodd Olwen Williams, pennaeth Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru: "Mae prinder staff yn golygu rhestrau aros hirach.
"Ac eto, er gwaethaf addewidion niferus gan Lywodraeth Cymru, nid oes gennym gynllun gweithlu cenedlaethol wedi'i ariannu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol - nac ychwaith unrhyw syniad ynghylch pryd y caiff ei gyhoeddi.
"Mae'r oedi hwn yn gwneud sefyllfa anodd yn waeth - heb y data diweddaraf am swyddi gwag, nid ydym yn gwybod maint y problemau sy'n ein hwynebu."
Beth am ystadegau eraill?
Mae'r rhestr aros gyfan am driniaethau sydd wedi cael eu trefnu o flaen llaw yn y gwasanaeth iechyd wedi codi i 754,677.
Y nifer sydd wedi aros dros flwyddyn yw 181,482 - 1% yn llai na mis diwethaf. Mae 57,284 yn aros o leiaf ddwy flynedd am driniaeth.
Ym mis Hydref dim ond 53.3% o gleifion, wedi diagnosis o ganser, ddechreuodd driniaeth o fewn y targed o 62 o ddiwrnodau, o gymharu â 52.5% ym mis Medi.
Ymateb gwleidyddol
Chwyrn oedd ymateb llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, i'r ystadegau diweddaraf.
"Pan welwn ni bod bron i chwarter y boblogaeth ar restr aros y GIG, yr ymatebion ambiwlans arafaf erioed, ac arosiadau adrannau brys gwaethaf Prydain, mae'n fwy na theg dweud bod gallu GIG Cymru i drin cleifion ar fin cyllell.
"Rwy' wir ddim yn deall pam bod gweinidogion Llafur yn anwybyddu'r galw am ganolfannau llawfeddygol a gaeafol i ddelio ag amseroedd aros peryglus o hir pan welwn ni eu bod yn gwneud cynnydd amlwg yn Lloegr."
Mae gofyn i Lywodraeth Cymru "fynd i'r afael yn well â'r argyfwng yma gynted â phosib", medd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, gan rybuddio y "gallai gweithredu'n gyflym fod yn wahaniaeth rhwng byw a marw".
Galwodd am fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys meddygfeydd, "i osgoi pentyrru wrth adrannau brys ac atal pobl rhag mynd mor sâl nes eu bod angen triniaeth frys".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2022