'Hel atgofion hapus' mewn arddangosfa o hanes y BBC
- Cyhoeddwyd
Efallai na fu Dalek erioed yn y Deri Arms ond mae'r ddau beth yn cael eu dathlu ochr yn ochr yn arddangosfa canmlwyddiant y BBC.
Mae honno'n agor ddydd Sadwrn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac yn dathlu cyfraniad y gorfforaeth i'r bywyd Cymreig a Chymraeg dros y 100 mlynedd diwethaf.
Mae hen setiau radio a theledu yn britho'r silffoedd, yn tystio i'r oesoedd a fu.
A hynny sy'n denu llygad Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Rhaglenni Cyhoeddus Amgueddfa Cymru.
"Fy hoff ran o'r arddangosfa ydy teledu o'r 50au ar adeg pan oedd hi'n ddrud iawn i bobl gael teledu ac felly 'dan ni wedi addurno hwn fel ffenest siop oherwydd yn aml iawn roedd pobl yn gwylio'r teledu drwy ffenest siop oedd yn gwerthu'r teledu.
"Ni wedi benthyg rhai o'r gwrthrychau, mae rhai'n dod o'n casgliad ni, mae nifer o setiau radio a theledu felly mae'n gyfle i arddangos rheina.
"'Dan ni hefyd wedi gwneud rhai benthyciadau gan y BBC eu hunain, mae rhai o'r meicroffons cynnar sy' gyda ni yn dod o gasgliad y BBC ei hun."
'Hel atgofion hapus'
Daeth ambell beth o'r ganolfan ddarlledu yn Llandaf pan gaeodd honno ddwy flynedd yn ôl.
Un o'r uchafbwyntiau, yn ddi-os, ydy lolfa'r saithdegau - atgof o'r cyfnod hwnnw pan fyddai'r teledu'n llwyr deyrnasu yng nghongl yr ystafell, a'r teulu'n gwylio'n ddiddos yng nghwmni'i gilydd.
"Dwi 'di bod wrth y modd jyst cofio'n ôl i 'mhlentyndod, amseroedd hapus iawn," meddai Sioned Williams, Curadur Hanes Modern Amgueddfa Cymru.
"Gwylio teledu, rhaglenni plant, falla'n teimlo'n sâl, weithia gydag annwyd ar y soffa gyda Mam, a jyst hel atgofion hapus o wylio rhaglenni fel Bagpus ac yn Gymraeg Bilidowcar, o'n i wrth fy modd."
Mae'r ddwy raglen hynny'n hawlio'u priod le yn yr arddangosfa - gyda rhaglenni plant yn cael lle amlwg iawn.
Mae 'na gyfeirio hefyd at sefydlu S4C, gyda Superted ar ei orsedd y tu ôl i'r cas gwydr, yn barod i achub y byd.
Fe gafodd pobl ifanc gyfle i leisio barn yn ystod y gwaith paratoi - ac fe fuon nhw'n gofyn a gafodd gwahanol gymunedau gynrychiolaeth ddigonol ar hyd cyfnod y BBC, rhyw beth y mae un rhan o'r arddangosfa'n rhoi sylw iddo.
Bydd digwyddiad i'r teulu'n cael ei gynnal yn yr amgueddfa ar 11 Chwefror i gyd-fynd â dathliadau'r canmlwyddiant yng Nghymru.
Bydd cyfle i ambell un ymgolli yn y stiwdio deledu bryd hynny - a chreu ychydig o'i hanes ei hun.
Bydd yr arddangosfa yn yr amgueddfa tan ganol Ebrill.
Does dim rhaid talu i fynd i'w gweld ond mae pobl yn cael eu hannog i archebu tocyn o flaen llaw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2018