Ffans mwyaf Doctor Who?

  • Cyhoeddwyd
Tayler a Ianto

Bydd 7fed Hydref 2018 yn noson hanesyddol i'r gyfres ffuglen-wyddonol 'Doctor Who' am ddau reswm.

Bydd yn cael ei darlledu ar nos Sul am y tro cyntaf ac mae 'na un rheswm bychan arall hefyd... am y tro cyntaf erioed mae'r Doctor yn ferch!

Jodie Whittaker fydd yn ymgymryd â rôl y timelord rhyfedd yn ei 13eg cnawdoliad.

Dau berson sy' wedi cyffroi'n lân am ddychweliad y Doctor yw Ianto Williams a Tayler Walters o Sir Gaerfyrddin.

Mae'r ddau yn ystyried eu hunain yn superfans o'r gyfres. Yn wir, dyna sut y daethant yn ffrindiau pan gyfarfu'r ddau ym Mand Chwyth Symffonig Caerfyrddin yn 2016.

Disgrifiad,

Ianto a Tayler - 'superfans' Doctor Who

"Dechreuais i wylio'r rhaglen yn 2007. Eisteddais i lawr gyda 'nhad i wylio a dw i wedi gwylio bob episode ers 'ny" meddai Ianto, ac mae Tayler yn ychwanegu, "Pan mae Doctor Who arno, rwy'n mynd draw i dŷ Ianto i wylio gyda fe a'i deulu. Does neb yn fy nheulu i'n gwylio fe!"

Yn 2016 derbyniodd Ianto deitl record byd am y casgliad mwyaf o drugareddau Doctor Who. Dywedodd ei bod yn broses hir a gymerodd dros ddeuddeg wythnos i'w chwblhau. Unwaith y derbyniodd gadarnhad fod ganddo hawl i ymgeisio am y record, roedd rhaid mynd ati i gasglu popeth at ei gilydd a chyfri'r cwbl.

Disgrifiad o’r llun,

Ar y pryd roedd gan Ianto 2,163 o drugareddau Doctor Who ond dim ond 2,131 ohonynt oedd yn cyfrif tuag at y record.

Wrth sôn pam ei fod yn hoffi'r rhaglen i'r fath raddau, mae Ianto'n dweud, "Bob wythnos mae rhywbeth gwahanol yn mynd 'mlaen. 'Sdim un episode yn debyg.

Un wythnos falle byddwch chi yn 1964 a'r wythnos ar ôl 'ny falle byddwch chi yn 5839 BC. Mae'n mynd ar draws pethau gwahanol a phlanedau gwahanol. A'r aliens wrth gwrs; y Daleks yw'r gore!"

Ei hoff bennod yw The Three Doctors. Roedd honno'n dathlu deng mlynedd o Doctor Who yn 1973.

"John Pertwee yw fy hoff ddoctor. Roedd ei weld e ar y teledu gyda Patrick Troughton yr un pryd yn ddoniol," meddai.

Nid yw Tayler yn casglu trugareddau fel mae Ianto, "Mae'n costi arian!". Er hynny, mae'n gwylio'r rhaglen yn ffyddlon ers 2007, ac wedi gwylio ambell un lawer amlach nag unwaith.

"Fy hoff bennod i o Doctor Who yw Day of the Doctor," meddai, "achos roedd David Tennat, Matt Smith, John Hurt a Tom Baker ynddi. Roedd e'n wych i'w wylio. Rydw i wedi'i gwylio fwy na phum gwaith achos mae'n arbennig."

Tybed a fydd dehongliad Jodie Whittaker o'r Doctor yn plesio Ianto a Tayler?

Disgrifiad o’r llun,

Y 13eg Doctor