Plant yn Yr Almaen yn dysgu am hanes yr Urdd mewn gwersi Saesneg
- Cyhoeddwyd
Mae plant mewn ysgol uwchradd yn ninas Bielefeld yn Yr Almaen yn dysgu am hanes yr Urdd yn eu gwersi Saesneg ar hyn o bryd.
Daw hynny ar ôl i'r archdderwydd, Myrddin ap Dafydd, ysgrifennu nofel i blant ac oedolion ifanc am berthynas yr Urdd a'r Almaen ym mlynyddoedd cynnar y mudiad.
Mae'r nofel yn seiliedig ar hanes y berthynas arbennig rhwng y mudiad a Bielefeld cyn, yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Er i Gymru a'r Almaen fod yn elynion ar faes rhyfel yn ystod y cyfnod yma, roedd rhai o ieuenctid Cymru a'r Almaen yn rhannu cyfeillgarwch cydwladol wedi ei seilio ar eu dyhead am heddwch.
Cymru Fyw fu'n sgwrsio gyda Myrddin am hanes y berthynas a sut mae cyfieithiad Saesneg o'i nofel, Ffoi rhag y Ffasgwyr, wedi dwyn sylw athrawes yn yr Almaen a newyddiadurwr yn y ddinas.
Perthynas yr Urdd a'r Almaen yn y 1930au
Cyn y cyfnodau clo aeth Myrddin ati i dyrchu yn archifau papurau newydd Prifysgol Bangor gan gynnwys hen rifynnau o gylchgrawn yr Urdd, Cymru'r Plant, a chanfod dolennau heddwch rhwng Yr Almaen a Chymru yn agos at ddiwedd y Rhyfel Mawr.
Eglura: "Be wnaeth fy nharo i gynta' oedd yn 1932 ddoth na griw o ferched o'r Almaen i Langrannog i wersyll cynta' y merched.
"Mi oeddan nhw yn cael teithiau i Dyddewi, cerdded Pumlumon, mynd i draeth Llangrannog ac i Aberystwyth gan yr Urdd. Oedd hynna yn weddol agos i ddiwedd y Rhyfal Byd Cynta'.
"Roedd Cymru fel sawl gwlad arall wedi cael colledion difrifol - felly oedd o'n rhywbeth diddorol a dewr iawn wnaeth yr Urdd."
Ers sefydlu'r Urdd yn 1922 mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da y mudiad wedi ei hanfon yn ddi-dor gan ieuenctid Cymru i bobl ifanc yng ngweddill y byd.
Yn ôl Myrddin, roedd creu perthynas â'r Almaen yn ystod cyfnod argyfyngus o dyndra rhwng y ddwy wlad, yn adeiladu ar negeseuon ewyllys da yr Urdd:
"O'r dechrau cynnar, yn dilyn sefydlu'r neges ewyllys da, roedd o'n fodd o wneud rhywbeth ymarferol fel cael criw o bobl ifanc o'r Almaen drosodd a chreu dolennau fel'na.
"Fuodd na rai o'r Cymry yn penfriends i'r genod yma o'r Almaen a buon nhw yn llythyru drwy'r 30au a wedyn yn '39 ar ddechrau'r Ail Ryfal Byd - clywed dim byd amdanyn nhw."
Llythyru rhwng Cymraes ac Almaenes yn ailgynnau'r berthynas
Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd gwesty Pantyfedwen yn y Borth, Aberystwyth dan feddiant yr Urdd ac yn cael ei defnyddio fel man i gynnal gwersylloedd cydwladol gydag ymweliadau gan bobl ifanc o Nigeria, America ac o wledydd Ewrop, oni bai am Yr Almaen.
Ond, ail sefydlwyd y ddolen rhwng pobl ifanc Yr Almaen a Chymru ar ôl i ferch o Gymru yrru llythyr at Almaenes roedd hi'n arfer ei llythyru cyn i'r rhyfel dorri, a derbyn ateb.
Meddai Myrddin: "Wedi ail sefydlu dolen drwy lythyr un o'r criw hefo criw Yr Almaen dyma Ifan ab Owen Edwards yn penderfynu cael Yr Almaenwyr draw i'r gwersyll nesaf yn Aberystwyth yn 1948.
"Felly mi ddoth 'na griw o'r Almaen - rhan fwya ohonyn nhw o Bielefeld - achos oedd yna athro ieithoedd tramor yn Bielefeld - Rudolf - oedd yn ffrindia efo Ifan ab Owen.
"Mi gawson nhw groeso arbennig yn Aberystwyth yn 1948 a mi deithiodd grŵp o aelodau'r Urdd i aros gyda theuluoedd yn Bielefeld yn 1949 - taith a ysgogodd yr Almaenwyr ifanc i sefydlu Aelwyd yr Urdd yn y ddinas."
Aelwyd yr Urdd yn Bielefeld?!
Ar ôl cael ei ryfeddu bod aelwyd yr Urdd mewn dinas yn yr Almaen yn y 1940au a hynny rai blynyddoedd yn unig ar ôl i ieuenctid yn Yr Almaen gael eu gorfodi i ymuno â'r Hitler Youth, cysylltodd Myrddin â phapurau newydd yn Bielefeld.
"Mi ddudodd fy ffrind sy'n dysgu Almaeneg wrtha i i yrru datganiad i bapurau newydd dyddiol yn Bielefeld am Aelwyd yr Urdd yno a gofyn os oes gynnoch chi unrhyw wybodaeth, i gysylltu.
"Ges i ateb gan newyddiadurwr i bapur Westfalen-Blatt, Markus Poch. Oedd ganddo fo ddiddordeb yng Nghymru gan i'w rieni fynd o amgylch siopau yng Nghymru yn yr 80au a'r 90au i brynu dodrefn antîc.
"Oedd o'n frwdfrydig iawn a mi aeth o i archifdy dinas Bielefeld a ffeindio swp o bethau am aelwyd yr Urdd yn fan'no gan gynnwys poster o Aberystwyth pan oedd côr Bielefeld yn canu yng Nghymru.
"Mi sgwennodd o erthygl dwy dudalen am yr Urdd yn y papur newydd a mi gafodd ymateb gan chwech o deuluoedd yn dweud eu bod nhw yn cofio'r aelwyd, yr ymweliadau a'r tripiau i Gymru.
"Oedd yna un ddynes, 99 oed, yn cofio dod ar daith i Gymru ac mi oedd hi fel deryn pan yn sôn am Gymru - yn bywiogi i gyd.
"Oedd na rai yn dod i ganu efo'r Urdd ac yn dod i Eisteddfod Llangollen. Yn yr 1930au mi wnaeth Hitler wahardd mudiadau ieuenctid oni bai am ei rai ei hun. Dwi'n siŵr iddyn nhw weld yr Urdd fel rhywbeth oeddan nhw wedi ei golli."
Ymateb pobl ifanc Yr Almaen i'r nofel
Ar ôl yr holl dyrchu a'r ymchwil pellach i mewn i hanes y berthynas rhwng yr Urdd, pobl ifanc Bielefeld a Chymru aeth Myrddin ati i ysgrifennu'r nofel, Ffoi Rhag y Ffasgwyr.
Cafodd cyfieithiad Saesneg o'r nofel gan Susan Walton ei ryddhau yn Hydref 2022. Fel brodor balch o Bielefeld, aeth Markus â chopïau o'r nofelau at athrawes Saesneg yn ei hen ysgol uwchradd yno.
Eglura Myrddin: ""Mi wnaeth Markus drafod efo Elke Klos, pennaeth yr adran Saesneg yn Brackweder Gymnasium, ysgol ramadeg yn Bielefeld, a'i chyflwyno i'r hanes. Mi wnaeth Elke ddarllen y nofel a dweud ei bod hi am drio ei darllen hi efo disgyblion 12-14 oed i ddysgu Saesneg sy'n beth rhyfedd!
"Oedd hi'n meddwl, achos ei bod hi'n nofel sy'n delio efo Bielefeld a delio efo problemau yn yr Almaen adeg yr Ail Ryfel Byd, ac yn dangos nad oedd pawb o'r Almaenwyr yn cefnogi Hitler yn wahanol i be mae llawer o'r rhaglenni a'r llyfrau hanes yn ei awgrymu fan hyn, y bydda hi'n addas.
"Mi oedd yna fudiadau cryf iawn, iawn yn gwrthnwynebu Hitler drwy'r 30au a dan yr wyneb, yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd. Mae 'na dipyn o hynny yn y nofal.
"Dyna pam wnes i ei hysgrifennu yn y Gymraeg yn y lle cynta'. I gyflwyno hynny i blant Cymru. Pethau sydd ar goll yn y cwricilwm. Dwi'n gobeithio bod Elke Klos wedi cymryd at y nofel achos ei bod hi'n rhoi darlun 'chydig bach fwy cytbwys."
Mae Elke yn gobeithio darllen rhai penodau o Fleeing the Fascistsgan Myrddin ap Dafydd gyda phlant blwyddyn saith yr ysgol, a'r gobaith yw y bydd hi'n rhan o gwricilwm parhaol yr ysgol.
Meddai Myrddin: "Dwi'n disgwyl adborth gan y plant a'r athrawon amdani. Mae o'n ticlo fi chydig bach ei bod hi yn cael ei defnyddio mewn gwersi Saesneg!"
Dotio at yr hanes
Ym mlwyddyn canmlwyddiant y mudiad, mae'r Urdd wedi rhoi lloches i deuluoedd o Afghanistan ac Wcráin ac wedi ymweld ag Alabama er mwyn creu dolen gydag eglwys a gafodd ei ffrwydro yno yn y 1960au.
Meddai Myrddin: "Mae gan yr Urdd record dda iawn iawn o estyn dwylo dros ffiniau a chreu dolennau pwysig dros y blynyddoedd a mae hynny yn parhau.
"Y syndod i raddau oedd canfod fod o wedi digwydd mor bell yn ôl ac mor fuan ar ôl y rhyfal.
"Be sy'n dotio fi ynglŷn â'r hanes yma ydy erbyn heddiw, ebost, Zoom, a ti'n gallu cysylltu â rwla yn y byd. Mor anodd odd hi yn y 30au a'r 40au i neud dolenna'. Er hynny nath yr Urdd lwyddo."
Hefyd o ddiddordeb: