Paragleidiwr o Rhuthun wedi marw o 'nifer o anafiadau'

  • Cyhoeddwyd
Martin DyerFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei ferch fod Martin Dyer yn hoff o antur "tan y diwedd"

Mae cwest wedi clywed y bu farw dyn o Rhuthun ar ôl bod mewn damwain tra'n paragleidio yn yr Alpau yn ne Ffrainc yn yr haf eleni.

Bu farw Martin Dyer, saer coed 55 oed o ardal Rhewl, o ganlyniad i "nifer o anafiadau" yn y digwyddiad ger Annecy ym mis Gorffennaf.

Clywodd y cwest gan un o bedwar o blant Mr Dyer, ddywedodd mai'r digwyddiad oedd "ein hofnau gwaethaf yn cael eu gwireddu".

Dywedodd Beth Woolford fod ei thad yn hoff o antur "tan y diwedd".

'Marw'n gwneud yr hyn dwi'n ei garu'

Roedd ei thad wedi dechrau paragleidio chwe blynedd ynghynt, meddai, gan wneud hynny o Foel Famau ger ei gartref yn gyson.

Ond nid hwn oedd y tro cyntaf iddo gael damwain yn gwneud y gamp. Fe dorrodd ei gefn mewn un ddamwain tra'n paragleidio o Foel y Fael yn Llantysilio.

Bryd hynny dywedodd Ms Woolford fod y teulu yn poeni y byddai'n colli ei fywyd i'r gamp yn y pendraw, ond ei fod wedi dweud wrthi: "Os ydw i'n marw, o leiaf fe fyddai'n marw'n gwneud yr hyn dwi'n ei garu."

Ychwanegodd fod y teulu wedi cymryd rhyw gysur yn y ffaith y bu farw tra'n gwneud rhywbeth "roedd yn cael cymaint o fwynhad ohono".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Martin Dyer wrth baragleidio ger Annecy yn ne Ffrainc

Clywodd y cwest ddatganiad hefyd gan Bill Sanders, oedd yn paragleidio gyda Mr Dyer yn Talloire-Montmin, Haute Savoie, ar y diwrnod fu farw.

Dywedodd ei bod hi'n ddiwrnod gwyntog, ond fod Mr Dyer mewn hwyliau da y diwrnod hwnnw.

Wedi iddo lanio, dywedodd Mr Sanders ei fod wedi gweld hofrennydd yn hedfan o amgylch yr hyn oedd yn edrych fel adain paragleidiwr wedi torri, a'i fod wedi cael gwybod yn ddiweddarach fod Mr Dyer wedi marw yn y ddamwain honno.

Wrth gofnodi canlyniad o farwolaeth drwy anffawd, dywedodd y Crwner John Gittins ei fod yn gobeithio fod y teulu'n gallu cymryd rhyw gysur o'r ffaith y bu farw Mr Dyer "mewn amgylchiadau ble na fyddai wedi gallu edrych yn hapusach".

Pynciau cysylltiedig