Llygod mawr yn gorfodi canslo sioe Nadolig ysgol

  • Cyhoeddwyd
Ysgol EiriasFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Uwchradd Eirias ar gau ddydd Gwener

Cafodd cyngerdd Nadolig yn un o ysgolion uwchradd y gogledd ei ganslo nos Iau oherwydd llygod mawr mewn rhai dosbarthiadau.

Mae arbenigwyr difa plâu wedi cael eu galw i Ysgol Uwchradd Eirias, Bae Colwyn - sydd ar gau ddydd Gwener - i ddelio â'r broblem.

Roedd yr ysgol eisoes wedi penderfynu peidio â defnyddio rhai ystafelloedd dosbarth ar gyfer gwersi.

Ond mae un aelod o staff yn honni fod rheolwyr wedi anwybyddu pryderon athrawon ers wythnosau.

Bydd yr ysgol nawr yn cael cyngor ynghylch pryd y bydd hi'n saff i ddefnyddio'r ystafelloedd hynny unwaith eto.

Fe dderbyniodd rhieni lythyr yn dilyn adroddiadau bod disgyblion wedi gweld llygod mawr yn yr adeilad.

Dywedodd y pennaeth, Sarah Sutton: "Bydd yr ysgol yn gweithio gyda'r awdurdod lleol er mwyn asesu risg a chynllunio camau gweithredu priodol."

'Wedi'i anwybyddu am wythnosau'

Ond yn ôl un aelod o staff, sydd eisiau aros yn ddienw, mae arwyddion o lygod wedi cael ei anwybyddu gan benaethiaid yr ysgol ers wythnosau.

"Mae'r ysgol yn afiach ac mae athrawon wedi bod yn dweud wrth reolwyr am arwyddion o lygod, sydd wedi cael ei anwybyddu am wythnosau... nes i'r undebau gamu mewn.

"Mae llygod wedi rhedeg ar draws ystafelloedd dosbarth tra bo'r plant yno.

"Mae 'na faw llygod wedi bod ar gadeiriau a byrddau, waliau ac allweddellau cyfrifiaduron."

'Mesur rhagofalus'

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Conwy bod cau'r ysgol yn "fesur rhagofalus" oherwydd "presenoldeb llygod mawr ar ran o'r safle".

Ychwanegodd y datganiad bod yr ysgol wedi cysylltu â rhieni, a bod gwersi'n parhau ar-lein.

Dywedodd Abdul Khan, cynghorydd sir sy'n cynrychioli'r ward y mae'r ysgol wedi ei lleoli ynddi, bod y llygod mawr yn "fater iechyd", ond ei fod yn deall bod camau yn cael eu cymryd i reoli'r pla.

"Gan fy mod i'n gwybod bod yna weithredu rwy'n llai pryderus," meddai.

"Pe na bai unrhyw beth yn cael ei wneud fe fuaswn i'n mynnu bod hynny'n digwydd, ond mae pawb yn gwneud eu rhan."

Pynciau cysylltiedig