Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-1 Blackpool

  • Cyhoeddwyd
Kion Etete yn sgorioFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Kion Etete yn sgorio i roi'r Adar Gleision ar y blaen

Cafodd Caerdydd eu hatal rhag sicrhau buddugoliaeth yn Stadiwm Caerdydd wrth i un o gyn-chwaraewyr y clwb rwydo i ddod â Blackpool yn gyfartal.

Roedd yr Adar Gleision ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf wedi i Callum Robinson wrthymosod, ymateb yn gyflym a phasio'r bêi i Kion Etete (36) ei tharo i'r rhwyd a sgorio'i gôl gyntaf o'r tymor.

Ond fe lwyddodd yr ymwelwyr i ddod yn gyfartal trwy beniad eu capten Gary Madine (67) na rwydodd unwaith yn ystod y ddwy flynedd y treuliodd yng Nghaerdydd.

Ar ôl codi pwynt yn hytrach na thri, er gwaethaf sawl cyfle addawol, mae Caerdydd yn aros yn 20fed safle'r Bencampwriaeth.

Cyn y gic gyntaf fe ddywedodd cadeirydd Caerdydd, Mehmet Dalman bod y clwb dan embargo rhag arwyddo unrhyw chwaraewyr cyn ffenestr drosglwyddo mis Ionawr ar ôl methu â thalu rhandal cyntaf ffi am arwyddo'r ymosodwr Emiliano Sala o glwb Nantes.