Y Bencampwriaeth: Coventry 3-3 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Liam CullenFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Liam Cullen yn dathlu sgorio'r gôl a ddaeth ag Abertawe'n gyfartal

Llwyddodd Abertawe yn rhyfeddol i sicrhau pwynt oddi cartref yn erbyn Coventry er eu bod tair gôl ar ei hôl hi ar dros awr.

Y tîm cartref oedd â'r fantais ar ddiwedd yr hanner cyntaf, diolch i beniad cywir Jonathan Panzo (29) o goc gornel.

Ac fe aeth pethau o ddrwg i waeth i'r ymwelwyr wedi'r egwyl pan sgoriodd Jamie Allen (47) a Viktor Gyökeres (54) i agor y bwlch rhwng y ddau dîm.

Gyda llai na hanner awr i fynd roedd gan yr Elyrch fynydd i'w ddringo, ond fe wnaethon nhw'n hyn roedd ei angen i ddod yn gyfartal.

Daeth tair gôl o fewn chwarter awr - oll yn ergydion o agos - gan Joel Piroe (68), Jay Fulton (76) a Liam Cullen (84).

Golyga'r canlyniad bod yr Elyrch wedi codi i 10fed safle'r Bencampwriaeth.