Y Cymro wrth y llyw yn seremoni gloi Cwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Gwilym Huws tu ôl i'w ddesg yn Stadiwm Lusail, lleoliad ffeinal Cwpan y BydFfynhonnell y llun, Gwilym Huws
Disgrifiad o’r llun,

Gwilym Huws tu ôl i'w ddesg yn Stadiwm Lusail o flaen ffeinal Cwpan y Byd

Fe wyliodd dros dair biliwn o bobl ffeinal anhygoel Cwpan y Byd Qatar ble enillodd Yr Ariannin o giciau o'r smotyn yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm Lusail ddydd Sul 18 Tachwedd.

Mae'r ffeinal yn cael ei ystyried fel un o'r goreuon erioed ac mi fydd y llun o Lionel Messi yn cario'r tlws yn ei dwrnament olaf yn un fydd yn y llyfrau hanes am byth.

Heblaw'r 88,000 oedd yn gwylio yn y stadiwm roedd gweddill y byd yn gwylio ar sgrin deledu. Cyn y gic gyntaf cawsom ni sioe seremoni gloi'r gystadleuaeth, yna wedi'r chwiban olaf roedd dathliadau'r enillwyr a'r prif wobrau fel y Golden Boot, Golden Glove, a'r Golden Ball.

Ac roedd Cymro o'r Felinheli yn rhan o'r tîm oedd yn cyfarwyddo'r sioe fawreddog.

Tu ôl i'w res o sgriniau cyfrifiaduron o'i sedd yn uchelfannau'r stadiwm roedd Gwilym Huws yn pwyso'r botwm holl bwysig oedd yn taflunio'r graffeg ar y cae, gan gyflwyno chwaraewyr a pherfformwyr.

Ffynhonnell y llun, Gwilym Huws
Disgrifiad o’r llun,

Golygfa o ddesg Gwilym - y sgriniau roedd o'n rheoli, a'r math o gynnwys roedd o'n ei daflunio ar y cae yn ystod y seremoniau

'Lot o stress'

Aeth Gwilym allan i Doha ar 17 Tachwedd lle'r oedd yn gweithio ar set deledu sianel FOX o'r Unol Daleithiau. Yn ystod y pythefnos olaf roedd o wedi bod yn paratoi ar gyfer y seremoni gloi fel rhan o dim technegwyr Creative Technology Middle East gyda FIFA.

"Dwi'n gweithio ers rhyw wythnos yn Stadiwm Lusail, a fy rôl i ydy media programmer, sef y person sy'n cael y media ac wedyn ei roi o fyny ar sgrîns," meddai Gwilym, 29, sy'n byw yng Nghaernarfon, wrth Aled Hughes ar Radio Cymru o flaen y ffeinal.

Ffynhonnell y llun, Gwilym Huws
Disgrifiad o’r llun,

Gwilym tu ôl i'w sgrîns yn paratoi at y noson fawr

"Mae 'na lot fwy iddo fo na hynny achos mae 'na lot o cues llwyth o media, ac mae o'n media sensitif iawn - mae 'na adegau lle dwi'n gorfod arwyddo dogfennau i ddeud 'nai byth rannu'r manylion.

"Mae 'na lot o stress yn mynd o gwmpas a 'da ni'n trio cael bob dim yn iawn," meddai Gwilym, oedd wedi cael gwybod y byddai rhwng 3 a 4 biliwn o bobl yn gwylio'r gêm.

Ffynhonnell y llun, Gwilym Huws
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r taflunwyr roedd Gwilym yn eu rheoli yn ystod y ffeinal

'Mae 'na bwysau'

Dros yr wythnos yn arwain at y ffeinal bu Gwilym yn gosod gwobrau fel y Golden Boot, Golden Glove, Golden Ball a Young Player mewn rhestrau trefn ddarlledu - y cuelist - wnaeth gael eu cyflwyno i'r stadiwm ac i'r byd sy'n gwylio fel roedd o'n pwyso botwm.

"Y broses ydy dwi'n gorfod creu cuelist ar gyfer y sioe i gyd, a dwi'n gorfod gweithio efo artistiaid a phobl production, gan weithio'n agos efo bobl FIFA gan gynnwys y committee," meddai.

Gyda chymaint o bobl yn gwylio, roedd y pwysau ar ei ysgwyddau yn anferthol.

"Mae bob dim sy'n mynd ar y sgrîns yna ac sy'n mynd ar y projection a phethau eraill, yn dod o'n system i. Os dwi'n pwyso botwm anghywir mae bob dim yn mynd yn ddu, felly oes, mae 'na bwysau.

Ffynhonnell y llun, Gwilym Huws
Disgrifiad o’r llun,

Gyda'i bas gwaith roedd gan Gwilym fynediad i holl gemau'r gystadleuaeth. Roedd yn enwedig o falch o gael mynd i wylio Brasil yn chwarae mewn Cwpan y Byd

Pan roedd 26 chwaraewr buddugol Yr Ariannin yn gwneud eu ffordd ar y cae i dderbyn eu gwobrau roedd Gwilym yn gorfod pwyso'r botwm i gael enwau'r chwaraewyr i ymddangos.

Yn ogystal roedd y rhaglennydd yn gorfod cydlynnu cynnwys y seremoni gloi a seremoni wobrwyo'r gystadleuaeth.

Ffynhonnell y llun, Gwilym Huws
Disgrifiad o’r llun,

Gwilym Huws a'i gydweithwyr o flaen Stadiwm Lusail

Roedd "yn eitha' nerfus", yn enwedig am y foment pan fyddai capten y tîm buddugol, sef Lionel Messi fel y gwyddom erbyn hyn, yn codi'r tlws.

"Dwi 'di gwneud seremonïau mawr o'r blaen ond dwi 'rioed 'di gwneud seremoni cloi Cwpan y Byd!"

'Falch aeth bob dim yn iawn'

Cafodd Gwilym ei hudo i'r byd unigryw yma pan gafodd afael ar daflunydd yn hogyn ifanc ac mi fyddai erioed wrth ei fodd yn edrych tu mewn i gyfrifiaduron, consolau fel Xbox, ac yn creu fideos yn ei amser sbar.

Ar ôl cael blas ar oleuo a chreu llwyfannau theatr yn Galeri, Caernarfon, graddiodd mewn cwrs Theatr Dechnegol yn Guildhall School of Music and Drama yn Llundain yn 2014.

Ers blynyddoedd bellach mae wedi bod yn teithio o gwmpas y byd yn arbenigo ar feddalwedd o'r enw 'disguise', sy'n darparu profiadau gweledol creadigol anhygoel i gwmniau gan weithio mewn digwyddiadau anferth fel Eurovision, Glastonbury, Gemau Olympaidd, Expo 2020, ac MTV Music Awards.

Ffynhonnell y llun, Gwilym Huws
Disgrifiad o’r llun,

Pan greodd Gwilym sioe oleuadau o adeilad The Shard yn Llundain

Un o'i brosiectau cyntaf oedd gofalu am sioe oleuadau o adeilad The Shard yn Llundain ar noson Calan Gaeaf yn 2014 gyda saith peiriant golau. Ni ddychmygodd erioed y byddai'n rheoli 40 taflunydd ar lwyfan chwaraeon mwyaf y byd bron i union wyth mlynedd yn ddiweddarach.

"Ar gyfer sioe roedd y projectors, y cyfrifiaduron a'r kit eraill i gyd werth miliynau," meddai Gwilym wrth Cymru Fyw wedi iddo gyrraedd adref.

"Dw'i wedi gwneud gigs sydd yn fwy cymleth ond dyma'r darllediad mwyaf yn y byd, hyd yn oed yn fwy na'r Gemau Olympaidd. Ro'n i yn nerfus ar y dechrau... ond wnaeth gwylio gêm fel 'na wthio unrhyw fath o nerfau odd gen i ar ôl allan ohona' i! Dwi jest yn falch aeth bob dim yn iawn.

Ffynhonnell y llun, Gwilym Huws
Disgrifiad o’r llun,

Gwilym yn cynrychioli Cymru yn y ffeinal

"Ro'n i'n cael gweld y ffeinal ac eistedd yn y stadiwm, ond dim jest edrych arno fo, roeddwn yn rhan ohono fo mewn ffordd.

"Ro'n i'n pwyso'r botwm oedd yn rhoi'r fideo ar goleuadau ymlaen ar y diwedd pan roedd y tlws yn cael ei godi gan Lionel Messi... O'n i yn llythrennol yn gorfod edrych arno yn codi'r gwpan ac yna pwyso."

Mae Gwilym yn falch o fod wedi cyrraedd adref yng Nghaernarfon ac yn edrych ymlaen am beint yn ei dafarn leol dros y Nadolig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Capten Yr Ariannin, Lionel Messi, yn codi'r tlws a graffeg Gwilym ar y gwaelod

Hefyd o ddiddordeb: