Cefnogwyr yn croesawu carfan Cymru 'nôl o Gwpan y Byd
- Cyhoeddwyd

Joe Allen yn llofnodi baner Cymru un o'r cefnogwyr ym Maes Awyr Caerdydd
Mae aelodau o garfan Cymru wedi glanio 'nôl yn y wlad yn dilyn eu hymgyrch yng Nghwpan y Byd, gyda chriw o gefnogwyr yno i'w croesawu.
Fe wnaeth yr awyren oedd yn cario'r garfan lanio ym Maes Awyr Caerdydd tua 18:30 nos Iau.
Roedd amryw o chwaraewyr eisoes wedi gwneud eu ffyrdd eu hunain o Qatar.
Daeth tua 70 o gefnogwyr - nifer ohonynt yn blant - i groesawu'r garfan i'r maes awyr yn dilyn eu hymgyrch gyntaf yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ers 1958.

Roedd Aaron Ramsey ymysg y chwaraewyr laniodd yng Nghaerdydd

Roedd Rebecca a'i meibion Dominic a Benedict ym Maes Awyr Caerdydd i groesawu'r chwaraewyr
"Mae wedi bod yn anhygoel," meddai Rebecca o Benarth, oedd ym Maes Awyr Caerdydd gyda'i meibion Dominic a Benedict.
"Dy'n ni wedi bod i'w gweld nhw yn y gemau rhagbrofol... felly dy'n ni yma i'w gweld nhw a dweud ein bod ni'n falch iawn ohonyn nhw."

"Mae pobl wedi disgwyl 64 mlynedd, felly mae fy nhad hyd yn oed wedi profi'r peth am y tro cyntaf," medd Tom
Dywedodd Tom, 14, oedd wedi gwneud ei ffordd i'r maes awyr o'r Barri ei bod yn "neis i'w gweld nhw a'u cyfarfod nhw".
"Mae pobl wedi disgwyl 64 mlynedd, felly mae fy nhad hyd yn oed wedi profi'r peth am y tro cyntaf."

"Gobeithio ymhen pedair blynedd y gallan nhw ei gwneud hi i'r Cwpan y Byd nesaf," meddai Alfie
Ychwanegodd Alfie, 15 oed a hefyd o'r Barri: "Roedd gallu rhannu'r foment a chael gwylio gyda fy nhad yn beth neis.
"Gobeithio ymhen pedair blynedd y gallan nhw ei gwneud hi i'r Cwpan y Byd nesaf."

Connor Roberts yn cael ei gyfarch gan gefnogwyr brwd yn y maes awyr
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2022