Iechyd meddwl: Galw am ystyried tlodi a gwahaniaethu

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywed Naomi Lea, wnaeth gyfrannu at yr adroddiad, y byddai dileu tlodi yn arwain at ostyngiad enfawr yn y nifer sydd angen cymorth iechyd meddwl

Ni fydd iechyd meddwl pobl yn gwella oni bai bod materion fel tlodi a gwahaniaethu yn cael eu cynnwys yn strategaeth y llywodraeth, yn ôl pwyllgor Senedd Cymru.

Mae'r adroddiad gan y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol yn dweud fod meddyginiaeth yn aml yn cael ei ddefnyddio fel "rhwymyn", yn hytrach na mynd i'r afael â phroblemau sylfaenol.

Mae'r pwyllgor yn nodi nifer y grwpiau maen nhw'n dweud sy'n wynebu risg arbennig o anghydraddoldebau iechyd meddwl, gan gynnwys pobl o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl a'r rheiny sy'n byw mewn tlodi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod fod ffactorau gwahanol yn cael effaith ar anghydraddoldebau iechyd.

27 argymhelliad

Mae'r pwyllgor wedi gwneud 27 argymhelliad fel rhan o'r adroddiad.

Mae'r rheiny'n cynnwys galwadau am ganolbwyntio polisi ar "bobl niwrowahanol" - sydd â chyflyrau fel ADHD neu awtistiaeth - cael gwell hyfforddiant mewn ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus, a mwy o gydweithio rhwng gwahanol adrannau o'r llywodraeth.

Mae'r pwyllgor hefyd yn dweud y dylai gweinidogion ystyried a allai datganoli'r system fudd-daliadau helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol na fydd newidiadau mawr yn y maes hwn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pwyllgor yn galw am gynnwys materion fel tlodi a gwahaniaethu yn strategaeth iechyd meddwl y llywodraeth

Dywedodd cadeirydd pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol y Senedd, Russell George: "Ni ellir gwahanu ein hiechyd meddwl oddi wrth ein hamodau byw a'n hamgylchiadau - ac mae'n wirioneddol bwysig bod gwasanaethau iechyd meddwl yn ystyried hynny.

"Gall unrhyw un gael trafferth gyda'u hiechyd meddwl, ond mae rhai grwpiau o bobl yn wynebu llawer mwy o berygl, ac mae hyn yn aml yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau yn y gymdeithas."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod fod anghydraddoldebau iechyd yn cael eu heffeithio gan nifer o ffactorau, fel tlodi ac amddifadedd, mynediad at lety, gofal iechyd a statws gwaith, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein Rhaglen Lywodraethu.

"Wrth i ni barhau i weithio er mwyn gwella iechyd meddwl a lles, byddwn yn sicrhau fod ffocws yn parhau ar weithredu'n draws-lywodraethol, sy'n cydnabod y ffactorau hyn a cheisio taclo'r rhwystrau sydd i wella lles pobl ledled Cymru."