Cyhuddo dyn o dreisio wedi digwyddiad Pontcanna, Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Cerbydau heddlu yn Nhreganna
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r cyhuddiadau yn dilyn digwyddiad ger Stryd Talbot yn oriau mân 12 Rhagfyr

Mae dyn 29 oed wedi ei gyhuddo o dreisio yn dilyn digwyddiad yn ardal Pontcanna, Caerdydd ym mis Rhagfyr.

Fe wnaeth Luke Spinks, o Drelái, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 17 Rhagfyr, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.

Mae'r cyhuddiad yn ymwneud â digwyddiad ger Stryd Talbot yn oriau mân 12 Rhagfyr.

Mae Mr Spinks hefyd wedi ei gyhuddo o ddwyn ac o dwyll.

Ni wnaeth gyflwyno ple i'r un cyhuddiad.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn y llys eto ar 16 Ionawr.

Pynciau cysylltiedig