Bwriad i adeiladu tai ar dir clwb tennis yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Clwb Tenis Yr Eglwys Newydd

Mae clwb tennis yng Nghaerdydd yn wynebu dyfodol ansicr gan fod y landlordiaid eisiau datblygu'r tir i adeiladu tai.

Mae gan Glwb Tennis Yr Eglwys Newydd tua 300 o aelodau ac mae'n cael i ddefnyddio hefyd ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol.

Yn ôl aelodau, byddai colli'r clwb yn cael "effaith fawr" ar y gymuned.

Ond mae'r landlordiaid yn dadlau bod gormod o gostau ynghlwm â'r clwb, a'u bod yn gweithio i geisio ffeindio safle gwahanol i'r aelodau.

'Colled fawr'

Cafodd y clwb ei sefydlu dros ganrif yn ôl, ac maen nhw ar y safle presennol ers 1946.

Cytunwyd ar les 15 mlynedd i'r clwb yn 2021, ond mae yna gymal terfynu yn hwnnw sy'n galluogi i'r landlord neu'r tenant ddod â'r cytundeb i ben yn ystod y cyfnod.

Dydy'r broses gynllunio heb ddechrau eto, ond pe bai Cyngor Caerdydd yn rhoi caniatâd i'r cais yna fe fyddai'n rhaid i'r clwb adael y safle presennol erbyn tua 2026.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Roberts yn gobeithio y bydd Cyngor Caerdydd yn gwarchod y tir

Dywedodd Aled Roberts, ysgrifennydd aelodaeth Clwb Tennis Yr Eglwys Newydd, y byddai colli'r clwb yn cael "effaith fawr".

"Mae yna bron i 1,000 o bobl y flwyddyn yn defnyddio'r cyfleusterau ar gyfer chwaraeon, ar gyfer cyfarfodydd a phethau cymdeithasol," meddai.

"Mi fysa fo'n golled fawr i'r clwb.

"Mi fydda fo'n golygu na fyddai rhai o'r ysgolion lleol yn cael darpariaeth tennis ar gyfer y plant, ac mi fysa fo'n golygu bod clwb Yr Eglwys Newydd yn gorfod cau gan fod dim maes o ddigon o safon a maint i'n cynnal ni ar wahân i'r un yma."

Mae'r clwb yn "reit bryderus" am y sefyllfa, meddai, ond yn hyderus y gallan nhw "wneud rhywbeth" am y peth drwy gydweithio gyda'r cyngor ar y cais cynllunio i geisio sicrhau bod y tir yn cael ei warchod.

Disgrifiad o’r llun,

Dydy Tristan Lee ddim yn credu y byddai'r isadeiledd lleol yn gallu delio gyda mwy o dai

Mae Tristan Lee yn byw yn lleol ac mae ei fab yn chwarae yn y clwb.

Pe bai'r cynlluniau'n mynd yn eu blaen fe fyddai hynny'n cael "effaith ofnadwy", meddai.

"Mae mor bwysig bod gan blant bethau i wneud, yn enwedig y dyddiau yma. Byddwn i wrth fy modd pe bai gen i rywbeth fel hyn pan o'n i'n cael fy magu.

"Dwi ddim yn gwybod sut y byddai'r isadeiledd lleol yn ymdopi gyda'r traffig [o'r datblygiad tai]. Byddai ddim yn fy marn i."

'Chwarae yma pob wythnos'

Yn ôl rhiant arall, Helen Tayler, byddai trawsnewid y safle yn cael effaith "negyddol iawn" ar ei theulu hi.

"Mae fy mhlant i yn chwarae yma bob wythnos. Dwi'n aelod fy hun ac wedi chwarae tennis yma am 10, 15 mlynedd.

"Ry'n ni'n dod lawr yma yn aml fel teulu i chwarae."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Tayler wedi bod yn mynychu'r clwb ers blynyddoedd, ac mae ei phlant bellach yn chwarae yno hefyd

Mae'r landlordiaid wedi etifeddu'r tir ac yn dweud eu bod yn dymuno datblygu'r safle yn rhannol oherwydd y costau uchel.

Roedd yna gynlluniau i adeiladu tai yno yn 1940, ond cafodd y rheiny eu hatal oherwydd y rhyfel.

'Aneconomaidd'

Mewn datganiad, dywedodd y landlordiaid: "Cafodd y tir ry'n ni wedi etifeddu gan ein tad-cu a'n hen-dad-cu ei brynu ganddo yn 1932 ac ef wnaeth adeiladu St Francis Road (stryd gyfagos).

"Yn 1946 fe wnaeth y clwb tennis rhentu rhan o'i dir ar ôl gorfod gadael eu hen safle.

"Yn 2021, cytunwyd ar les 15 mlynedd oedd yn cynnwys tri chymal terfynu - y cyntaf yn 2026.

"Mae'r rhent isel, sydd wedi bod yr un fath ers 10 mlynedd, a'r costau cyfreithiol uchel yn aneconomaidd ac nid yw'n rhywbeth ry'n ni eisiau ei basio ymlaen i'n pedwar o blant.

"Mae yna gynlluniau ar gyfer datblygu chwaraeon yn Yr Eglwys Newydd ac ry'n ni'n ceisio dod o hyd i safle gwahanol i'r clwb, a byddwn yn annog aelodau i ystyried hynny."

Pynciau cysylltiedig