Llygod mawr: Ysgol Eirias ar gau tan y flwyddyn newydd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol EiriasFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd Ysgol Uwchradd Eirias yn ailagor i ddisgyblion tan 10 Ionawr

Bydd ysgol yn Sir Conwy ble canfuwyd llygod mawr yr wythnos ddiwethaf yn aros ynghau i ddisgyblion tan y flwyddyn newydd.

Cafodd cyngerdd Nadolig Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn ei ganslo nos Iau, 15 Rhagfyr, wedi i lygod mawr gael eu canfod ar y safle.

Mae'r ysgol wedi bod ynghau ers dydd Gwener, gyda disgyblion yn dysgu o adref.

Dywedodd y pennaeth Sarah Sutton fod angen gwneud rhagor o waith glanhau, ac y bydd plant yn gallu dychwelyd ar 10 Ionawr.

Fe dderbyniodd rhieni lythyr yr wythnos ddiwethaf yn dilyn adroddiadau bod disgyblion wedi gweld llygod mawr yn yr adeilad.

Dim llygod ar y safle bellach

Ond mae un aelod o staff, sydd eisiau aros yn ddienw, yn honni fod rheolwyr wedi anwybyddu pryderon athrawon am lygod mawr ers wythnosau.

"Mae llygod wedi rhedeg ar draws ystafelloedd dosbarth tra bo'r plant yno. Mae 'na faw llygod wedi bod ar gadeiriau a byrddau, waliau ac allweddellau cyfrifiaduron," meddai.

Ond mewn llythyr at rieni a gofalwyr ddydd Llun dywedodd yr ysgol fod "mesurau glanhau pellach" wedi'u defnyddio dros y penwythnos, a bod hynny wedi awgrymu nad oes llygod ar y safle bellach.

"Mae'n bwysig fod modd i'r ysgol ailagor gyda hyder llawn gan staff, dysgwyr a chi fel rhieni a gofalwyr," meddai'r llythyr.

"Am y rheswm yma bydd yr ysgol yn parhau i weithio gydag arbenigwyr difa plâu a glanhawyr dros y tridiau nesaf cyn, ac yn cynnwys, gwyliau'r Nadolig."

Ychwanegodd y bydd yr ysgol yn parhau i gael ei fonitro dros y gwyliau, ac y bydd yn cael ei lanhau unwaith eto cyn iddi ailagor.

Pynciau cysylltiedig