Tlws FA Lloegr: Wrecsam 3-1 Scunthorpe

  • Cyhoeddwyd
pêl-droedFfynhonnell y llun, Getty Images

Ar ôl ildio gôl gyntaf y noson fe darodd Wrecsam yn ôl yn erbyn Scunthorpe United nos Fercher i sicrhau lle ym mhedwaredd rownd Tlws FA Lloegr

Roedd cic gyntaf y gêm 45 munud yn hwyr wedi i draffig achosi oedi i fws y gwrthwynebwyr, a aeth ar y blaen wedi wyth munud pan fanteisiodd Rob Apter ar gamgymeriad amddifynnol i basio'r bêl i'r sgoriwr, Caolan Lavery.

Daeth Jake Bickerstaff (33) â'r tîm cartref yn gyfartal gydag ergydiad isel.

Cafodd y fuddugoliaeth ei selio yn yr ail hanner wedi goliau Reece Hall-Johnson (70) ac Elliot Lee (90+2).

Bydd Wrecsam yn wynebu Altrincham oddi cartref yn y rownd nesaf ym mis Ionawr.