Gwirfoddoli i roi Nadolig cofiadwy i blant sy'n gadael gofal
- Cyhoeddwyd
Bydd nifer o wirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser ar ddydd Nadolig i rannu hwyl yr ŵyl gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi gadael gofal.
Mae gwirfoddolwyr yng Nghaerdydd a'r cyffiniau yn rhoi'r gorau i'w traddodiadau ar 25 Rhagfyr i roi diwrnod arbennig i'r rhai sy'n gadael gofal yn y brifddinas.
Dywedodd y gwirfoddolwyr yng nghanolfan ymchwil gofal cymdeithasol plant Prifysgol Caerdydd, Cascade, mai'r bwriad ydy cynnig noddfa i bobl ifanc a fyddai fel arall yn treulio'r Nadolig ar eu pennau eu hunain.
Ar ôl misoedd o gynllunio, mae cydweithwyr wedi helpu i gydlynu cinio, anrhegion, gweithgareddau a chwmni ar gyfer tua 25 o bobl rhwng 16 a 25 oed yn bennaf.
Mae mwy na 500 o bobl neu sefydliadau wedi cynnig eu cefnogaeth, gyda symiau enfawr o roddion gan farbwyr, sinemâu, cogyddion a busnesau annibynnol eraill.
Daw'r digwyddiad yn sgil gynllun llwyddiannus gan yr awdur Lemn Sissay, a ddechreuodd yn 2013.
Ar ôl tyfu i fyny mewn gofal, sefydlodd ginio Nadolig blynyddol i sicrhau nad oedd yn rhaid i'r rhai yn y system ofal dreulio dydd Nadolig ar eu pen eu hunain.
Mae Sally Holland bellach yn Athro yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Tan yn ddiweddar, roedd hi'n Gomisiynydd Plant Cymru, ac felly mae'n ymwybodol o'r heriau sy'n wynebu plant sydd wedi bod mewn gofal.
"Pan rydyn ni'n meddwl am bobl sy'n unig rydyn ni'n meddwl am bobl hŷn, ond rydyn ni'n gw'bod fod unigolion ifanc sy' wedi cael eu magu mewn gofal yn aml yn fwy unig nag eraill," meddai.
"Er enghraifft, mae pobl ifanc sydd wedi cael eu magu mewn cartrefi maeth neu garterfi plant yn llai tebygol i gael teulu neu weithiau ffrindiau fel pobl ifanc eraill.
"Rydyn ni'n gw'bod fod rhai ohonyn nhw wedi cael dyddiau Nadolig anodd yn y gorffennol felly mae'n bwysig i ni sicrhau fod pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael y teimlad bod pobl yna dydd Nadolig a chyfle i gael cinio hyfryd, anrhegion, cwmni a justsicrhau dydyn nhw ddim yn unig.
"Pan o'n i'n gomisiynydd plant cwrddais i â channoedd o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a dwi'n gw'bod fod llawer ohonyn nhw sy'n byw bywydau llwyddiannus iawn.
"Ond mae 'na lawer hefyd sy'n fwy aml nag eraill yn teimlo'n unig ac hefyd sy'n ffeindio Nadolig yn amser anodd iawn."
Roedd Ffion, sy'n 15 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Llanharri ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn awyddus i gymryd rhan pan glywodd ei mam Louise Roberts yn siarad am y prosiect dros y ffôn.
"O'n i'n gw'bod bod Mam yn rhan ohono fe ac o'n i'n really upset i glywed bod pobl yn mynd i wario Nadolig ar ben eu hunain ac o'n i eisiau g'neud be bynnag o'n i'n gallu i 'neud nhw deimlo'n hapus gyda phobl o gwmpas nhw ar y dydd," meddai.
"O'n i wedi mynd i ddewis addurniadau, helpu gyda'r bwyd a mynd i 'nôl y bwyd a hefyd pigo mas y wrapping a lapio nhw hefyd.
"Dwi'n teimlo'n really gyffrous oherwydd ma' Nadolig i fi wedi bod yn wych dros y blynyddoedd a dwi ddim yn gallu gweld rheswm pan nad ydw i'n gallu symud dydd Nadolig fi i ryw ddydd arall i wneud pobl eraill yn hapus."
Mae Rachael Vaughan, sy'n rheolwr ymgysylltu gyda Cascade, yn credu ei bod hi'n "bwysig iawn cael rhywle ma' pobl sy' wedi gadael gofal yn gallu mynd a teimlo'n saff ac yn hapus."
"Ar ôl y dydd dwi'n gobeithio bod pobl ifanc i gyd yn dod ac yn teimlo'n rhan o gymuned a teimlo fel bod nhw'n gallu cymryd rhan yn y dathliad diwrnod Dolig a cymryd rhywbeth positif o'r dydd yn lle falle poeni am bethe sydd wedi digwydd o'r blaen."
Efallai mai dyma'r digwyddiad cyntaf yng Nghymru, ond mae'r tîm yn gobeithio cynnal cinio Nadolig ym mhob dinas neu hwb yn y wlad dros y pum mlynedd nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2022