Hamperi Nadolig i deuluoedd mewn angen yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Bydd hamperi o fwyd yn cael eu dosbarthu i deuluoedd mewn angen yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
"Trio dod â 'chydig o lawenydd i fywydau pobl dros y 'Dolig."
Dyna fwriad criw o wirfoddolwyr o Abertawe, yn cynnwys rhai o sêr y clwb pêl-droed, wrth lenwi cannoedd o hamperi bwyd ar gyfer pobl sydd mewn angen.
Saith mlynedd yn ôl, fe ddechreuodd yr Aelod Seneddol lleol, Carolyn Harris, apêl o'r enw 'Mae gan bawb hawl' i helpu teuluoedd i fwydo'u plant dros gyfnod gwyliau ysgol.
Aeth hi ati i baratoi pecynnau bwyd a brechdanau yn ei chegin ei hun i drio helpu.
Erbyn hyn, mae'r apêl wedi tyfu'n sylweddol, ac yr wythnos hon, mae degau o wirfoddolwyr wedi bod yn helpu i baratoi a llenwi hamperi Nadolig mewn warws fawr ar gyrion Abertawe.
Mae nhw'n bwriadu cyrraedd miloedd o deuluoedd lleol.

Mae chwaraewyr tîm pêl-droed Abertawe, fel Ollie Cooper, wedi bod yn helpu gyda'r gwaith o lenwi'r hamperi
Mae pob pecyn yn llawn gyda dros 24 o eitemau yn cynnwys cig a llysiau ar gyfer cinio, yn ogystal â chraceri, bisgedi caws, teisen Nadolig a llu o nwyddau eraill.
"Popeth sydd angen arnoch chi i 'neud Nadolig yn Nadolig," dywedodd un o'r gwirfoddolwyr.
Ar noswyl Nadolig fe fydd y criw yn helpu i baratoi cinio Dolig ac yn dosbarthu prydau bwyd yn lleol "er mwyn rhannu ychydig o gariad".
'Diolch a Nadolig Llawen'
Mae hon yn ymdrech i'r gymuned yn gyfan, ac ymhlith y gwirfoddolwyr sy'n helpu y mae nifer o sêr Clwb Pêl-droed Abertawe.
Mae Peter France, pennaeth elusen sefydliad y clwb yn dweud eu bod, fel clwb, eisiau "gweithio gyda phobl leol sydd mewn angen a helpu i wella eu bywydau".

Roedd amddiffynnwr Cymru a'r Elyrch, Ben Cabango hefyd yn rhan o'r gwaith
Un o'r gwirfoddolwyr yw Sue Lewis a dywedodd ei bod yn "wych i fod yn rhan o hyn i gyd".
"Ma' hwn yn mynd i 'neud gwahaniaeth mawr i deuluoedd, yn enwedig teuluoedd â phlant y Nadolig hwn, mae e wir yn ffantastig, s'dim gair arall."
Dros y blynyddoedd mae'r galw am help wedi cynyddu, ac mae'r trefnwyr yn dweud bod mwy o alw eleni nag erioed o'r blaen oherwydd yr argyfwng costau byw.
Mae Sarah Swinglehurst wedi bod yn pacio hamperi ers 07:00 ac erbyn ganol p'nawn mae'n cyfaddef ei bod hi wedi blino, ond yn dweud fod yr ymdrech yn "werth chweil".

Bydd 2,000 o deuluoedd yn elwa o'r cynllun, a gafodd ei sefydlu gan yr AS Carolyn Harris
Eleni, mae'r gwaith wedi bod yn anoddach hefyd oherwydd bod costau bwyd wedi codi yn sylweddol.
"Mae'n anodd i lot o deuluoedd eleni," dywedodd Carolyn Harris.
"Ma' pobl wedi bod yn cysylltu â ni dros y misoedd diwethaf wir yn becso eu bod nhw'n methu fforddio talu am fwyd a hefyd anrhegion Dolig ar gyfer eu plant. Ni hefyd wedi clywed gan bensiynwyr sy'n dweud bod nhw methu fforddio talu biliau trydan a hefyd prynu anrhegion.
"Dyw hynny ddim wedi digwydd o'r blaen."
Eleni fe fydd yr apêl yn cyrraedd 2,000 o deuluoedd ond mae y trefnwyr yn dweud y bydden nhw'n hoffi gwneud mwy, ond does gyda nhw ddim yr arian na'r adnoddau i wneud hynny.
Wrth baratoi i helpu'r gymuned dros y Nadolig mae gan y gwirfoddolwyr neges hefyd i bawb sydd wedi cyfrannu at y nwyddau i lenwi y parseli, sef "Diolch a Nadolig llawen!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022