Prinder pobl i bluo tyrcwn yn bryder i fridwyr
- Cyhoeddwyd
Dydy tyrcwn ddim o blaid y Nadolig ond yn sgil ffliw adar, costau byw a phrinder pluwyr mae'n gyfnod anodd i nifer o fridwyr tyrcwn hefyd.
Yn ôl ffigyrau Cyngor Dofednod Prydain, mae hanner tyrcwn maes (free range) Prydain wedi'u colli yn sgil ffliw adar - cyfanswm o ryw 600,000 o adar.
Mae costau cynhyrchu uwch hefyd wedi effeithio'n fawr ar fridwyr.
Er hynny, y neges yn ôl Undeb Ffermwyr NFU Cymru yw bod yna ddigon o dyrcwn i gwrdd â'r gofyn.
Pris tyrcwn yn codi
Mae Gwenno Pugh, sy'n ffermio Tŷ'n Llan ym Mhenmynydd ym Môn, wedi bod yn cadw tyrcwn ers yn 14 oed.
Dywed bod costau cynyddol yn ei phoeni ond mai prinder pobl i bluo oedd un o'r prif broblemau.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd: "45 o dyrcis sydd yma eleni… 'dan ni wedi bod yn cadw bach mwy ond mae'n job cael llafur adeg Dolig i helpu felly.
"Mae costau wedi cynyddu yn sylweddol o ran y letrig a'r bwyd - bob dim i fod yn onest ond mae o'n gost fydd yn rhaid i ni basio 'mlaen.
"Dwi wedi gwneud fy nghwsmeriaid i gyd yn ymwybodol bod nhw'n gorfod codi… ma' pawb yn dueddol o dalu be sydd isio.
"Mae'r ffliw adar wedi bod yng nghefn meddwl rhywun… 'dan ni wedi bod yn cau rownd y sied rhag ofn i adar gwyllt fynd mewn ond un o'r prif broblemau ydy cael pobl i bluo.
"Prinder pluwyr ydy'r broblem fwyaf i fod yn onest… 'dan ni wedi bod yn lwcus dros y blynyddoedd o ran gallu cael criw ond mae'r criw wedi bod yn mynd yn llai ac yn llai a dwi'n ffeindio 'leni ar y funud does 'na ond tri ohonom ni i wneud nhw i gyd.
"Mae hi'n job does 'na neb isio ei gwneud. Mi fyddan ni wrthi drwy'r dydd beryg!"
Mae rheolau ffliw adar hefyd wedi golygu na all Stad y Rhug ger Corwen allforio eu tyrcwn organig i lefydd fel y dwyrain pell eleni. Mae dros 1,000 o adar yn cael eu magu yno.
Dywedodd Gareth Jones, rheolwr fferm y stad: "Doeddan ni ddim yn gwybod sut fase fo [ffliw adar] yn effeithio ni at y Nadolig, ond mae o wedi effeithio'r mwyaf arnom ni am na fedrwn ni allforio.
"Fyddan ni'n gyrru dipyn go lew o dyrcis yn flynyddol - rhyw 200 i 300 ohonyn nhw - i Hong Kong ac yn y blaen, ond dydi hynny ddim wedi medru digwydd y tro yma.
"Fyddan ni'n gwerthu nhw yn y wlad yma, wrth gwrs, neu werthu nhw trwy'r siop a'n lle bwyta fan hyn yn Rhug."
Mae prisiau uwch wedi cael rhywfaint o effaith ar werthiant siopau cig hefyd fel y dywed Llion Jones o Siop Cigydd Jones a'i fab yn Llanrwst.
"Mae 'di bod yn ok ond fuaswn i'n dweud bod yr ordors wedi bod bach mwy slow," meddai.
"Mae'r prisiau wedi codi i bawb… mae'r ffermwyr yn gorfod talu mwy am y feed ac yn y blaen ac mae pobl yn tueddu i aros yn ôl eleni ond mae popeth yn ok.
"Mae'r ordors rhywbeth tebyg i llynedd ond fel dwi'n dweud maen nhw bach yn slofach yn dod mewn… pobl yn dal nôl.
"Ma' pobl yn tueddu i fynd am y crown gan bod y gost yn dod i lawr ychydig bach mwy ond ar y cyfan mae 'na dipyn o bob peth yn mynd.
"Fydd costau byw yn taro ni flwyddyn nesa' dwi'n meddwl bach mwy achos mae pwy bynnag sy'n cyflenwi gwyddau i ni yn stopio ar ôl 'leni gan bod eu costau nhw yn mynd i fyny yn aruthrol."
Digon o dwrcwns
Dywed Dafydd Jarrett, swyddog polisi yn undeb amaeth NFU Cymru, bod eleni wedi bod yn flwyddyn anodd i fridwyr dofednod wrth i gostau cynhyrchu godi'n arw.
"Mae ffliw adar wedi gwneud bywyd yn anodd i gynhyrchwyr wrth i filoedd o dwrcis gael eu lladd - yn bennaf yn nwyrain Lloegr ond fedrai sicrhau chi bod 'na ddigon o dwrcwns yn mynd i fod ar gael ar gyfer Dolig.
"I ddweud y gwir efallai bod gormod gan ambell fridiwr a dyw hynny ddim yn newyddion da wedi iddyn nhw fod yn eu bwydo am gyhyd."
Ychwanegodd Mr Jarrett y gallai hi fod yn anodd i bob bridiwr oroesi y flwyddyn nesaf.
"Mae gennym ni gynhyrchwyr mawr, rhai canolig a chynhyrchwyr bach ac mae gan bob un ei le felly a 'dan ni isio trio cadw hynny os medrwn ni.
"Ond mi fydd 'na rai eleni, oherwydd y bwyd yn enwedig, os bydd hwnnw yn parhau yn uchel, yn cwestiynu a fyddan nhw'n prynu'r cywion tyrcis haf nesa'," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2022