Trawsfynydd: 'Ystyried' claddu gwastraff ymbelydrol
- Cyhoeddwyd
Fe allai gwastraff gyda lefel isel o ymbelydredd gael ei waredu ar safle mewn atomfa yng Ngwynedd, o dan gynlluniau newydd.
Mae Magnox, perchnogion safle Trawsfynydd, wedi cadarnhau eu bod yn ystyried claddu ychydig o'r gwastraff o dan y ddaear a rhoi concrit ar ei ben.
Mae'r cwmni'n cydnabod bod y cynnig yn un "anarferol", ac yn dweud ei fod yn un opsiwn sy'n cael ei ystyried.
Yn ôl Cadno, mudiad gwrth-niwclear, fe fydd y cynlluniau yn codi cwestiynau am ddiogelwch y gymuned leol.
Rwbel, metel a phridd
Fe wnaeth Trawsfynydd stopio cynhyrchu trydan yn 1991 ar ôl bod yn weithredol am 25 mlynedd, ac ar hyn o bryd mae'r atomfa yn y broses o gael ei dadgomisiynu.
Mae tua 99.9% o'r gwastraff ymbelydrol wedi cael ei symud o'r safle.
Ar hyn o bryd, mae Magnox yn cyflogi bron i 300 o bobl yno ac mae yna drafodaethau diweddar wedi bod ynghylch adeiladu adweithydd niwclear newydd yn Nhrawsfynydd.
Cafodd canllawiau, dolen allanol newydd eu cyhoeddi yn 2018 o ran dadgomisiynyu safleoedd niwclear.
Mae'r canllawiau yn caniatáu i wastraff gael ei waredu mewn "rhywle addas", gan gynnwys y safle gynhyrchodd y gwastraff, neu mae modd ei symud i safle arall.
'Diogelwch yn flaenoriaeth'
Mae Magnox ar hyn o bryd yn ystyried dymchwel cyn-adeilad y llynnoedd ar y safle.
Roedd hwnnw'n cael ei ddefnyddio i storio ac oeri elfennau o danwydd niwclear ar ôl iddyn nhw gael eu symud o'r adweithyddion.
Rwbel, metel sgrap, sylfaeni a'r pridd ydy llawer o'r gwastraff.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys gwaredu'r gwastraff ar y safle neu ei symud i leoliad arall yn y Deyrnas Unedig.
"Wrth ddymchwel rhai o'r adeiladau yma ar y safle 'dan ni'n edrych ar ail-ddefnyddio peth o'r defnydd yna er mwyn llenwi rhai o'r tyllau sydd ganddom ni ar y safle," meddai Angharad Rayner, cyfarwyddwr safle Trawsfynydd.
"Mae'r defnydd yna gyda lefelau isel iawn o ymbelydredd ynddyn nhw. Yr opsiwn arall sydd ganddom ni ydy i symud a chludo'r defnydd yna i gyd o'r safle yma i roi mewn twll yn y ddaear mewn safle arall yn y Deyrnas Unedig.
"Mae hynny'n golygu cludo dros 2,000 o lorïau o rwbel ar lonydd yn y Parc Cenedlaethol ac yn ein cymunedau ni."
Ychwanegodd bod diogelwch y cyhoedd yn flaenoriaeth ac y bydd yna ymgynghori gyda phobl leol.
Mae Magnox yn bwriadu cyflwyno cais i'r rheoleiddwyr ym mis Medi 2023, ond fydd 'na ddim penderfyniad yn cael ei gymryd am rai blynyddoedd.
Mae Iwan Jones yn byw yn Nhrawsfynydd ac yn gweithio yn y siop leol.
Dywedodd: "O leia' eu bod nhw yn trafod 'efo'r gymuned leol a bod ni'n gwybod bod o'n saff - dwi ddim yn gweld problem 'efo beth maen nhw'n bwriadu gwneud 'efo fo."
'Problemau mawr'
Dywedodd Awel Irene o grŵp gwrth-niwclear Cadno y gall y cynlluniau achosi "problemau mawr" yn y dyfodol.
"Dydy claddu gwastraff niwclear ddim yn ymarferol mewn unrhyw gyd-destun," meddai.
"Dydy o chwaith ddim yn ateb i'w gario fo i ffwrdd o'r safle.
"Os ydy'r orsaf niwclear yn cynhyrchu gwast mae'n rhaid cadw fo ar y safle uwchben y ddaear a monitro fo am ba bynnag amser sydd ei angen... cannoedd o flynyddoedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2020