Streicio yn amharu ar deithio Noswyl Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf drenau Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gorsaf drenau Bangor yn dawel iawn ddydd Sadwrn

Mae pobl yn cael eu cynghori i beidio â theithio ar drên yng Nghymru oni bai bod hynny'n "gwbl angenrheidiol" oherwydd streic.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru nad oedd yn gallu rhedeg gwasanaethau ar linellau Network Rail yn ystod y streicio er nad oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â'r anghydfod.

Dywedodd Network Rail y byddai streic gweithwyr undeb yr RMT mewn ffrae dros gyflog yn cael effaith ddifrifol ar wasanaethau.

Fe allai ychwanegu pwysau ar ffyrdd gyda'r cyfnod prysuraf i'w ddisgwyl dros amser cinio ddydd Sadwrn, yn ôl grwpiau moduro.

Dim ond ar brif reilffordd de Cymru, i'r dwyrain o Gaerdydd, ac ar reilffyrdd craidd y cymoedd y bydd gwasanaethau rheilffordd yn rhedeg yn ystod y streic a fydd yn parhau tan 06:00 ar 27 Rhagfyr.

Mae'r RAC a'r dadansoddwr trafnidiaeth Inrix wedi dweud bod disgwyl y traffig gwaethaf ar y ffyrdd ar Noswyl Nadolig rhwng canol dydd a 13:00.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud y byddai'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau rheilffordd ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau yn cael eu hatal rhwng 24 a 27 Rhagfyr a bod mwy o gamau ar y gweill yn gynnar ym mis Ionawr.

Mae'r streiciau yn rhan o anghydfod hir dros gyflog, sicrwydd swyddi ac amodau gwaith.

Dywedodd Network Rail fod y gweithredu i fod i ddechrau ddydd Sadwrn am 18:00, felly byddai angen i drenau stopio'n llawer cynharach yn y prynhawn i'w galluogi i ailddechrau'n brydlon ar 27 Rhagfyr.

Roedd y cwmni hefyd yn cynghori teithwyr i wirio cyn iddyn nhw deithio ar 27 Rhagfyr.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr RMT, Mick Lynch: "Mae'r undeb yn parhau i fod ar gael ar gyfer trafodaethau i ddatrys yr anghydfod hwn."

Pynciau cysylltiedig