Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 24-29 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Fe lwyddodd Caerdydd i gipio buddugoliaeth pwynt bonws brynhawn Llun a hynny yn y funud olaf yn erbyn y Dreigiau ar Rodney Parade yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Y Dreigiau sgoriodd cyntaf wedi i JJ Hanrahan sicrhau cic gosb lwyddiannus o flaen y pyst wedi 21 munud ac ymhen pedair munud roedd e wedi dyblu'r sgôr.
Ond wedi 33 munud roedd yr ymwelwyr ar y blaen wedi cais gan Tomos Williams ac wedi cic lwyddiannus roedd y sgôr yn 6-7.
Cyn diwedd yr hanner cyntaf roedd cais arall i Gaerdydd wrth i Josh Adams sgorio ac roedd cais hefyd i'r Dreigiau (Rio Dyer) ac ar hanner amser roedd y sgôr yn 11-14.
Yn fuan yn yr ail hanner roedd yna gais arall i Tomos Williams ac wedi 66 munud, pwynt oedd ynddi (21-22) wedi cic gosb lwyddiannus i Gaerdydd a chais gan Harrison Keddie i'r Dreigiau.
Ddeg munud cyn diwedd y gêm roedd y Dreigiau ar y blaen wedi cic gosb lwyddiannus arall gan Hanrahan ond wedi 80 munud roedd yna gais i Gaerdydd (Corey Domachowski).
Tor calon munud olaf i'r Dreigiau felly yn Rodney Parade wrth iddyn nhw golli o bum pwynt. Y sgôr terfynol 24-29.