Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-0 QPR

  • Cyhoeddwyd
caerdydd qprFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Caerdydd yw'r tîm sydd wedi sgorio leiaf o goliau yn y Bencampwriaeth, ond nhw oedd y mwyaf tebygol o gipio tri phwynt yn eu gêm gartref yn erbyn Queen's Park Rangers ddydd Llun.

Amddiffyn yn ddiflino wnaeth yr ymwelwyr ond er sawl ymgais tua'r gôl ni chafodd Caerdydd yr un ergyd ar y targed.

Daeth cyfleoedd i Rubin Colwell (ei gêm gyntaf ar ôl gwella o anaf) Callum Robinson, Perry NG a dau gyfle arbennig o dda i Kion Etete, ond prin y profwyd gôl-geidwad QPR.

Bydd cefnogwyr yr Adar Gleision, mae'n siŵr, yn gobeithio am ymosodwr neu ymosodwyr newydd yn ystod mis y trosglwyddiadau.

Bodlonodd y ddau dîm ar bwynt yn unig gyda Caerdydd yn codi i'r ugeinfed safle - hynny ddim ond dau bwynt yn uwch na'r tri safle isaf, tra bod QPR yn seithfed yn y Bencampwriaeth.