Tri o bobl wedi'u hanafu wedi gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae tri o bobl wedi'u hanafu wedi gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn brynhawn Llun.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru bod y gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng dau gar ar ffordd yr A497 ym Moduan ger Nefyn toc cyn 15:00.

Roedd un person wedi'i gaethiwo wedi'r gwrthdrawiad a bu'n rhaid i ddiffoddwyr tân ei ryddhau.

Cafodd ei gludo yn ddiweddarach i'r ysbyty gan yr Ambiwlans Awyr wedi iddo gael anafiadau difrifol.

Cafodd dau berson arall eu cludo, nad oedd wedi'u hanafu'n ddrwg, gan ambiwlans i'r ysbyty.

Yn gynharach fe ddywedodd plismyn bod disgwyl i'r ffordd fod ar gau am gryn amser.

Pynciau cysylltiedig