Dyn yn marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Caerffili
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi arestio gyrrwr wedi i gerddwr gael ei daro ar ffordd yn Sir Caerffili.
Bu farw dyn 37 yn y fan a'r lle wedi gwrthdrawiad ar yr A469 rhwng Llanbradach ac Ystrad Mynach tua 20:30 nos Lun, 26 Rhagfyr.
Dywed y llu bod dyn 33 oed o Sir Henffordd yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Mae perthnasau'r dyn a fu farw yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu'n apelio am luniau dashcam gan unrhyw un a deithiodd ar hyd yr A469 rhwng 19:30 a 21:00 nos Lun.
Maen nhw hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd gerbyd Nissan Juke du yn cael ei yrru ar y ffordd neu yn yr ardal yn gyffredinol ar y noson dan sylw.