Teyrnged teulu i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teulu wedi disgrifio'u "tristwch llethol" wedi marwolaeth dyn 37 oed yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A469 yn Sir Caerffili.
Bu farw Craig Walding wrth gerdded rhwng Llanbradach ac Ystrad Mynach nos Lun 26 Rhagfyr.
Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i'r safle tua 20:30 ond roedd Mr Walding wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae dyn 33 oed o Sir Henffordd a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.
'Person arbennig'
Dywedodd teulu Mr Walding ei fod "yn fab, brawd, ewythr a ffrind anhygoel a oedd yn cael ei garu gan lawer.
"Roedd yn berson arbennig ac mae'n gadael twll dwfn iawn yn ein bywydau ni i gyd.
"Ni all geiriau fynegi'r boen yr ydym yn ei deimlo, a hoffem ddiolch i bawb am y cariad a'r gefnogaeth yr ydym wedi'i gael."
Mae swyddogion arbenigol Heddlu Gwent yn rhoi cymorth i'w deulu agosaf.
Parhau mae'r apêl am wybodaeth neu luniau dashcam gan yrwyr oedd yn teithio ar yr A469 rhwng 19:30 a 21:00 nos Lun.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2022