Teyrnged i nain 'ofalgar ac egnïol' wedi gwrthdrawiad yn Abergele

  • Cyhoeddwyd
Mary Wynne WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu / Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Mary Wynne Williams wedi ei disgrifio fel mam, gwraig a nain gariadus

Mae teulu dynes 71 oed fu farw ar ôl gwrthdrawiad yn Abergele, Conwy wedi ei disrifio fel "gwraig, mam a nain gariadus".

Bu farw Mary Wynne Williams o Fetws-y-coed yn dilyn y gwrthdrawiad ar Heol San Sior tua 21:00 ar 23 Rhagfyr.

Dywedodd yr heddlu fod car Seat Leon llwyd yn gysylltiedig â'r digwyddiad a'u bod yn apelio am dystion.

Ychwanegodd y llu fod y teulu'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

'Hwyliog, gofalgar ac egnïol'

Mewn teyrnged, dywedodd teulu Mary Wynne Williams ei bod yn "wraig gariadus i Richard, mam i Tom, Jane a Henry a nain Mary i Olwen a Hedd.

"Mi fydd hi'n gadael bwlch enfawr ym mywydau ei theulu a'u ffrindiau niferus.

"Roedd Mary'n bresenoldeb anhygoel o hwyliog, gofalgar ac egnïol.

"Mae ei ffrindiau a theulu mewn sioc."

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig