Y Bencampwriaeth: Coventry 0-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Jamie Allen a Ryan WintleFfynhonnell y llun, PA Media

Di-sgôr oedd hi yn y gêm oddi cartref i'r Adar Gleision yn Coventry.

Hon oedd y bedwaredd gêm gyfartal i Gaerdydd yn olynol, ac er nad oedd hi'n fuddugoliaeth, fe lwyddon nhw i atal Coventry rhag cyrraedd cefn y rhwyd.

Colli cyfle o drwch blewyn wnaeth Ben Sheaf o Coventry pan darodd y postyn.

Er y gwaith yn amddiffyn, cymharol ddi-fflach oedd yr Adar Gleision wrth ymosod.

Mae Caerdydd yn dal eu tir yn y Bencampwriaeth - a hynny yn y 19eg safle.