Y Bencampwriaeth: Abertawe 4-0 Watford
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Abertawe i drechu Watford yn gyfforddus nos Wener i ddod â 2022 i ben ar nodyn positif, ar ôl mynd wyth gêm heb fuddugoliaeth cyn hynny.
Aeth yr Elyrch ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf, gyda Joël Piroe yn rhwydo yn dilyn pas dda i'w lwybr gan Liam Cullen.
Llwyddodd Cullen i ddyblu mantais y tîm cartref gyda chwarter awr yn weddill, wrth iddo fanteisio ar ansicrwydd yn y cwrt cosbi gan Watford.
Funudau'n unig yn ddiweddarach ychwanegodd Piroe ei ail, cyn i Joel Latibeaudiere rwydo ar ddiwedd symudiad arbennig i roi'r Elyrch bedair gôl ar y blaen.
Mae'r fuddugoliaeth yn gweld Abertawe yn codi pum safle i 12fed yn y Bencampwriaeth.