Y Bencampwriaeth: Blackburn 1-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Callum O'Dowda'n cael ei daclo gan Ryan HedgesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Callum O'Dowda'n cael ei daclo gan Ryan Hedges

Mae rhediad siomedig Caerdydd yn y Bencampwriaeth yn parhau wedi iddyn nhw golli o gôl i ddim oddi cartref yn erbyn Blackburn Rovers.

Fe orffennodd yr hanner cyntaf yn ddi-sgôr, er cyfleoedd i'r ddau dîm gan gynnwys ymdrechion gan Mark Harris a Callum Robinson.

Ond fe aeth y tîm cartref, sydd yn nhrydedd safle'r Bencampwriaeth, ar y blaen yn fuan wedi'r egwyl pan wyrodd ergydiad Bradley Dack (48) oddi ar amddiffynnwr yr Adar Gleision, Jack Simpson i gefn y rhwyd.

Mae'n golygu bod Caerdydd heb ennill yn y gynghrair am y seithfed tro yn olynol - roedd eu buddugoliaeth ddiwethaf ar 5 Tachwedd.

Mae nhw'n parhau yn y 20fed safle gyda 28 o bwyntiau, gan obeithio na fydd timau sydd yn is yn y tabl yn cau'r bwlch neu'n codi uwch eu pennau pan fyddan nhw'n chwarae'n nes ymlaen ddydd Sul.