Y Bencampwriaeth Rygbi Unedig: Scarlets 33-17 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Y ffrwgwd a arweiniodd at gerdyn coch Sione Kalamafon a cherdyn melyn Ross MoriartyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y ffrwgwd a arweiniodd at gerdyn coch Sione Kalamafon a cherdyn melyn Ross Moriarty

Llwyddodd y Scarlets i sicrhau dim ond eu hail fuddugoliaeth yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig y tymor hwn trwy drechu'r Dreigiau 33-17.

Roedd hynny er iddyn nhw chwarae dros hanner y gêm gyda 14 o chwaraewyr yn dilyn cerdyn coch i'r wythwr, Sione Kalamafoni.

Fe diriodd Steffan Evans, Dane Blacker a Johnny McNicholl i'r Scarlets ac fe ychwanegodd ciciau Leigh Halfpenny 18 o bwyntiau.

Croesodd Angus O'Brien a Lewis Jones i'r Dreigiau a fethodd â manteisio ar fod ag un chwaraewyr ychwanegol.

Daeth pwyntiau cyntaf y gêm trwy giciau cosb - dau i Halfpenny ar ran y Scarlets ac un gan JJ Hanrahan ar ran yr ymwelwyr.

Y Dreigiau gafodd y cais cyntaf wedi i Rio Dyer redeg ar garlam a bwydo'r bêl i O'Brien ei thirio.

Tarodd y Scarlets yn ôl gan drin y bêl yn gelfydd cyn i Steff Evans groesi'r llinell ond roedd yna ddrama i ddod.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cais Steffan Evans - y cyntaf o dri i'r Scarlets

Gyda'r sgôr yn 13-10 fe gafodd Ross Moriarty gerdyn melyn am dynnu cap Sione Kalamafoni - ond fe welodd chwaraewr Tonga gerdyn coch am daflu dwrn mewn ymateb.

Gyda'r Scarlets nawr un dyn yn brin, roedd y Dreigiau wedi gwneud y mwyaf o'u mantais o fewn dim ac wedi cais Lewis Jones a throsiad Hanrahan roedden nhw nawr 13-17 ar y blaen.

Cauodd cic gosb Halfpenny y bwlch i 16-17 cyn diwedd yr hanner cyntaf.

Wedi'r egwyl fe wnaeth cic gosb arall gan Halfpenny roi'r tîm cartref ar y blaen unwaith yn rhagor cyn i Dane Blacker dirio i ymestyn y fantais i 26-17.

Cais hwyr gan Johnny McNicholl yn y gornel dde wedi cyd-chwarae da a throsiad Halfpenny wnaeth selio'r fuddugoliaeth.

Pynciau cysylltiedig