Achub dafad o fynydd trwy frefu i ganfod ei lleoliad

  • Cyhoeddwyd
Y famog yn gaeth ar Fynydd ConwyFfynhonnell y llun, RSPCA Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y famog yn gaeth ar Fynydd Conwy

Mae arolygwyr RSPCA Cymru wedi disgrifio rhai o alwadau mwyaf cofiadwy 2022, gan gynnwys achos o ganfod lleoliad dafad oedd yn gaeth ar fynydd ar ôl brefu i ddal ei sylw.

Fe frefodd y famog yn ôl gan eu galluogi i gadarnhau lle'r oedd wedi glanio ar ôl syrthio i lawr Mynydd y Dref, Conwy.

Roedd yn sownd mewn llwyn mieri a bu'n rhaid i'r achubwyr dorri llwybr drwy redyn am dros awr cyn ei chyrraedd.

"Er mawr ryddhad, fe nath hi ein hateb," meddai'r Arolygydd Andrew Broadbent.

'Cysgodi ar gribyn'

"Mi nathon ni gario ymlaen i 'siarad' efo hi , gan ddod yn agosach drwy'r adeg ac yn y diwedd nathon ni ddod o hyd iddi'n cysgodi ar gribyn bach a llwyni mieri o'i chwmpas.

"Ar ôl ei thorri'n rhydd a chael golwg am anafiadau posib, aethon ni'n ôl i fyny'r llwybr, y ddau ohonon ni'n ei hanner cario a'i hanner gwthio'n ôl i fyny'r mynydd er mwyn iddi ailymuno â'i phraidd."

Ffynhonnell y llun, RSPCA Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Arolygwyr yr RSPCA yn abseilio i lawr Y Gogarth yn Llandudno i achub dafad

Bedwar diwrnod ynghynt, roedd yr un ddafad wedi syrthio tua 65 troedfedd i lawr y llethr, and chael ei hun yn sownd ond yn ddianaf.

Roedd Andrew Broadbent, ynghyd â'r Arolygydd Mark Roberts, hefyd yn rhan o gyrch i achub maharen oedd yn gaeth ar silff isel 98 troedfedd i lawr chwarel ger Llangollen, yn Sir Ddinbych.

Bu'n rhaid i'r ddau abseilio i lawr, dal y maharen a'i roi mewn bag cyn ei gollwng yn ddiogel.

"Doedd o heb gael anaf, felly o gael ei rhyddhau aeth ati i fynd yn ôl i bori," meddai'r Arolygydd Roberts.

Pynciau cysylltiedig