Teyrngedau i'r hyfforddwr Paralympaidd Anthony Hughes
- Cyhoeddwyd

Aled Davies a'i hyfforddwr ar y pryd, Anthony Hughes, wedi iddo ennill medal aur yn Llundain yn 2012
Mae'r cyn-athletwr a'r hyfforddwr Paralympaidd Anthony Hughes wedi marw yn 63 mlwydd oed.
Cafodd ei ddisgrifio fel dyn oedd "o flaen ei amser" gan Brif Weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru, Fiona Reid.
Hyfforddodd genedlaethau o athletwyr, gan gynnwys Aled Siôn Davies, Tanni Grey-Thompson, Hollie Arnold a Beth Minro.
"Welwn ni fyth mo rywun fel Ant eto," ychwanegodd.
Bu farw ar 30 Rhagfyr.
'Gweld y potensial'
Daeth Anthony Hughes i amlygrwydd ym mhencampwriaethau'r byd yn 1990 pan enillodd fedal arian am daflu'r pwysau.
Bu'n taflu'r pwysau a'r waywffon yng ngemau paralympaidd Barcelona yn 1994 cyn troi ei sylw at hyfforddi.
Roedd yn un a chwaraeodd ran allweddol yn y chwyldro yn athletau Paralympaidd yng Nghymru.
Gwelwyd cynnydd mawr yn nifer y medalau a gafodd eu hennill gan athletwyr o Gymru ar ran Tîm Prydain - o 17 yn Sydney 2000 i 38 yn Llundain yn 2012.

Mae Aled Sion Davies, Hollie Arnold, Josie Pearson a Beth Munro ymhlith y nifer wnaeth elwa o hyfforddiant Anthony
Cafodd Anthony Hughes ei enwi'n Hyfforddwr Chwaraeon Cymru y flwyddyn yn 2011 a'i urddo gyda'r MBE yn 2013.
"Yn enwedig yng Nghymru roedd Anthony Hughes yn benderfynol o sicrhau fod Cymru'n arwain y byd yn athletau cynhwysol," meddai Fiona Reid.
"Roedd Anthony yn gweld y potensial ym mhobl."
'Cymru heb gael yr un llwyddiant hebddo'
Wrth siarad â rhaglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru, dywedodd cyd-weithiwr i Anthony, Gerwyn Owen, ei fod wedi cyffwrdd â "bron pob athletwr o Gymru" aeth i'r Gemau Paralympaidd.
"Heb Anthony, dwi'm yn meddwl fyse Cymru gyfan wedi cael y llwyddiant gafon ni yn y Gemau Paralympaidd a wedyn wrth gwrs yng Ngemau'r Gymanwlad lle oedd athletwyr anabl yn cael cymryd rhan.
"Pan 'dach chi'n defnyddio Anthony fel enghraifft o rywun sydd wedi brwydro a thorri drysau lawr i sicrhau fod athletwyr gydag anableddau'n cael yr un hawliau, a'r cyfleoedd, yn sicr dyna lle fydd yn ein hatgof ni ohono fo.
"Mae o wedi cyffwrdd â bron bob un athletwr sydd wedi dod drwy Gymru i gymryd rhan yn y gemau paralympaidd."