Trefynwy: Arestio dynes wedi marwolaeth pensiynwraig

  • Cyhoeddwyd
Waitrose TrefynwyFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r ddynes 75 oed yn yr ysbyty ar ôl y digwyddiad

Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad mewn maes parcio archfarchnad ar nos Galan.

Bu farw'r ddynes 75 oed yn yr ysbyty ar ôl y gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 16:20 GMT ger archfarchnad Waitrose ar Stryd Mynwy, Trefynwy.

Mae dynes 44 oed o Drefynwy wedi'i harestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.

Dywedodd Heddlu Gwent ei bod wedi'i rhyddhau tra bod ymchwiliadau'n parhau.

Mae'r llu yn apelio am dystion ac unrhyw recordiad dashcam a gwybodaeth am Toyota Yaris coch a welwyd yn cael ei yrru yn y maes parcio.

Pynciau cysylltiedig