Rhybudd yswiriant wedi anafiadau i Gymro yng Ngwlad Thai

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd ffrind i'r teulu, Lucie Macleod, eu bod mewn "sioc" nad oedd y cwmni yswiriant yn fodlon talu

Mae chwaer dyn a gafodd ei anafu yn ddifrifol ar un o ynysoedd Gwlad Thai wedi annog teithwyr i graffu ar fanylion eu polisïau yswiriant yn fanwl.

Cafodd Adam Davies, 28, o Ddinas Cross yn Sir Benfro, anafiadau niferus ar ôl i'w feic modur daro yn erbyn polyn ar ynys Ko Tao ddydd San Steffan.

Roedd yn gobeithio treulio'r Flwyddyn Newydd yng Ngwlad Thai ar ôl bod yn Nepal.

Mae ganddo anafiadau i'w benglog, ysgyfaint, a gwaedu ar yr ymennydd, a hefyd wedi torri nifer o'i asennau, pont ei ysgwydd a'i figwrn.

Diffyg cymorth yn 'sioc'

Mae ei rieni, Alison a Graham, wrth erchwyn ei wely yn yr ysbyty ble mae'n cael triniaeth ar ynys Koh Samui.

Fe esboniodd Jess, ei chwaer, nad oedd ei gwmni yswiriant yn fodlon talu am y costau meddygol.

"Roedd polisi insurance gydag Adam ond mae'n bwysig i ddarllen y manylion, achos roedd rhywbeth yn y polisi yn golygu bod e ddim yn covered," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Adam Davies wedi bod yn teithio yn Nepal cyn cyrraedd Gwlad Thai

Roedd Adam wedi cael y polisi yswiriant byd eang gan ei fanc, ond roedd cymal yn y polisi yn golygu bod rhaid dychwelyd i'r Deyrnas Unedig ar ôl 31 diwrnod.

Am ei fod wedi bod dramor am gyfnod hirach na hynny, doedd hi ddim yn bosib hawlio'r costau meddygol.

Yn ôl ffrind i'r teulu, Lucie Macleod, 23, roedd hi'n sioc aruthrol nad oedd y cwmni yswiriant yn fodlon talu am gostau Adam yn yr ysbyty yng Ngwlad Thai.

"Pan rydyn ni wedi mynd i'r banc i gael yr insurance, bydden nhw wedi dweud 12 months, global, world-wide, full insurance a does neb yn meddwl i checkio. O'n i jyst wedi meddwl bydde fe'n covered."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jess, chwaer Adam, wedi sefydlu apêl ar-lein er mwyn codi arian ar gyfer costau meddygol Adam

Mae Jess wedi llwyddo i drefnu apêl ar-lein sydd wedi codi £20,000 i'w brawd, gydag unrhyw beth sydd yn weddill ar ôl talu'r biliau meddygol yn cael ei roi i achosion da.

Mae hi'n hynod ddiolchgar i bobl Sir Benfro a thu hwnt am eu haelioni wrth gynorthwyo'r teulu.

"Dwi eisiau dweud diolch i bawb yn yr ardal am roi arian i helpu Adam," meddai.

Yn ôl Lucie Macleod, mae cefnogaeth pobl leol wedi bod yn arbennig.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ffrind i'r teulu, Lucie Macleod, eu bod mewn "sioc" pan glywson nhw na fyddai'r cwmni yswiriant yn talu

"Chi'n clywed ambyti pethau fel hyn yn digwydd i bobl arall ond chi ddim, byth, yn meddwl bydde fe'n digwydd i rywun chi'n gwybod," meddai.

"Mae pobl yn yr ardal wedi ymateb yn amazing. Mae pobl yn yr ardal yn really generous."

Mae rhieni Adam - Alison a Graham - yn gobeithio aros gyda'u mab tan y bydd yn ddigon da i deithio adref.

Dywedodd cwmni yswiriant Adam, Banc Lloyds, mewn ymateb: "Byddwn wastad yn annog cwsmeriaid sy'n edrych i deithio dramor am gyfnod hir o amser i wirio amodau eu hyswiriant, boed hynny wedi ei ddarparu drwy eu cyfrif banc neu wedi ei brynu ar wahân.

"Bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr, gan gynnwys Banc Lloyds, yn ei gwneud hi'n glir beth sy'n cael ei gynnwys yn y polisi pan fyddwch chi'n ei gymryd allan yn y lle cyntaf, ac yn eich hatgoffa yn flynyddol er mwyn sicrhau ei fod yn parhau yn briodol i chi."

Pynciau cysylltiedig