'Rhwystredigaeth' clwb rygbi sy'n sownd yn Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Jona Owen yn un o aelodau'r clwb sy'n sownd yn Ffrainc wedi i'w hediad gael ei ganslo

Mae aelodau clwb rygbi o Gaerdydd wedi rhannu eu "rhwystredigaeth" ar ôl i gwmni hediadau fethu â'u helpu wedi i'w hediad o Ffrainc gael ei ganslo yn fyr rybudd nos Sul.

Roedd tua 60 o aelodau Clwb Rygbi Cymry Caerdydd ar daith yn Toulouse dros y penwythnos. Brynhawn Sul, fe deithiodd mwyafrif y criw i Bordeaux er mwyn hedfan yn ôl i Fryste gyda chwmni EasyJet.

Ond ychydig oriau cyn yr hediad - ac yng nghanol gêm Cymru yn erbyn Wcráin - fe gafodd yr hediad ei ganslo.

Dywedodd aelodau'r clwb wrth BBC Cymru Fyw nad oedd cymorth ar gael iddyn nhw gan y cwmni hediadau i drio dod o hyd i ffordd adref.

Mae cwmni EasyJet yn dweud eu bod yn "flin iawn" bod yr hediad wedi ei ganslo a'u bod wedi helpu teithwyr gyda phrydau bwyd a llety.

Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Cymry Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd aelodau'r clwb i fod i hedfan o Bordeaux i Fryste nos Sul ond cafodd yr hediad ei ganslo heb opsiwn arall

Yn ôl un o aelodau'r clwb, Caeo Harri Hughes, 24, mae'r tîm wedi eu siomi gan ddiffyg cymorth y cwmni hediadau.

Roedd i fod yn y gwaith ddydd Llun a dywedodd bod diffyg atebion yn "rhwystredig".

"Mae hi 'di bod yn 24 awr rhwystredig, efo'r newyddion am yr hediad yn cael ei ganslo funudau mewn i gêm Cymru v Wcráin," dywedodd.

"Dydy'r cwmni heb helpu dim, wrth beidio â cynnig trafnidiaeth i ni a peidio hyd yn oed cael desg ymholiadau yn y maes awyr er mwyn trafod y broblem."

Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Cymry Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y tîm ar daith dros y penwythnos yn Toulouse, de Ffrainc

Yn ôl un o chwaraewyr eraill y clwb, Jona Owen, 24, mae sawl un o'r aelodau wedi ceisio dod o hyd i ffyrdd o gyrraedd adref heb gymorth y cwmni hediadau.

"Mae rhai o'r hogia' 'di gadael yn gynnar bore 'ma er mwyn cael cwch i Jersey ac yna trio ffeindio hediad o fan 'na 'nôl i Brydain rywsut.

"Ma 'na rai wedi mynd i Paris i drio cael yr Eurostar yn ôl i Lundain ond mae 'na drafferthion wedi bod yn fanna yn ddiweddar felly does na'm lot o rheina'n rhedeg.

Dywedodd fod rhai wedi ceisio teithio ar drên ond gan ei bod yn ŵyl y banc yn Ffrainc ddydd Llun, dywedodd nad oedd rhyw lawer o drenau'n rhedeg.

Mae disgwyl i gwmni bws o Gaerdydd ddod i gasglu nifer o aelodau sydd heb wneud trefniadau eraill.

'Straen'

Ffynhonnell y llun, Jona Owen
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd y golygfeydd prysur ym maes awyr Bordeaux ddydd Llun wrth i aelodau'r clwb geisio dod o hyd i ffordd o gyrraedd adref

Fe lwyddodd Jona i ddod o hyd i hediad i Budapest yn Hwngari ac mae'n gobeithio hedfan o'r fan honno i Birmingham yn hwyr nos Lun.

"Gobeithio, gobeithio fydda i 'nôl yng Nghaerdydd erbyn oriau mân y bora - rhyw ddiwrnod a hanner yn hwyr - ond fel arall, 'dan ni'n mynd i fod yn sownd 'ma am 'chydig mwy o ddyddia'.

"Mae 'na lot yma ym maes awyr Bordeaux, lot yn mynd drwy'r un peth â ni," dywedodd.

"Mae'n gyfnod stressful ofnadwy ar y funud, ma' pawb jyst isio mynd adra'."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran cwmni EasyJet: "Ry'n ni'n flin iawn fod hediad y grŵp o Bordeaux i Fryste wedi cael ei ganslo.

"Fe wnaethon ni roi gwybod i gwsmeriaid yn uniongyrchol o'u hopsiynau i ail-drefnu neu dderbyn ad-daliad ac ry'n ni'n darparu llety a phrydau bwyd yn ôl yr angen.

Ychwanegon nhw fod oriau eu gwasanaethau cwsmeriaid wedi cael eu hymestyn a'u bod yn ymddiheuro am achosi trafferth i'r teithwyr.

"Mae ein tîm yn cysylltu â'r grŵp i drafod yr opsiynau a'u had-dalu am unrhyw dreuliau rhesymol."

Pynciau cysylltiedig