Rhybudd am ragor o law trwm i ddod ar draws Cymru

  • Cyhoeddwyd
Mae rhan o lwybr troed ger Casnewydd wedi disgyn i mewn i Afon Ebbw ddydd MercherFfynhonnell y llun, Cyngor Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhan o lwybr troed ger Casnewydd wedi disgyn i mewn i Afon Ebbw ddydd Mercher

Mae rhagor o law trwm ar y ffordd i rannau helaeth o Gymru nos Fercher a dydd Iau.

Dywed y Swyddfa Dywydd y bydd cawodydd cyson a thrwm ar draws Cymru o nos Fercher, gan ledu tua'r dwyrain ddydd Iau.

Chwe sir y gogledd yn unig sydd heb eu cynnwys yn y rhybudd melyn diweddaraf am law, sy'n dod i rym am 21:00 ac yn para tan 17:00 brynhawn Iau.

Mae sawl rhybudd o lifogydd wedi eu cyhoeddi ar hyd yr Afon Tefeidiad ac Afon Hafren ym Mhowys.

Yn ogystal mae disgwyl gwyntoedd cryfion hyd at 60mya ar y glannau ac ar dir uchel nos Fercher.

Mewn rhybudd o'r newydd brynhawn Mercher, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynghori pobl i baratoi ar gyfer llifogydd.

Disgrifiad,

Dyffryn Tywi dan ddŵr yn dilyn glaw trwm

Yn ne Cymru fydd y cawodydd mwyaf trwm, yn ôl yr arbenigwyr.

Yn gyffredinol mae disgwyl hyd at 30mm o law tra bo'r rhybudd melyn mewn grym ond fe allai hyd at 90mm o law ddisgyn ar dir uchel.

Mae'r trafferthion posib yn ei sgil yn cynnwys toriadau i gyflenwadau trydan, llifogydd a thrafferthion i deithwyr.

'Paratoi am lifogydd'

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi sawl rhybudd i fod yn barod am lifogydd, dolen allanol.

Brynhawn Mercher, dywedodd eu Rheolwr Tactegol ar ddyletswydd, Kelly McLauchlan, eu bod yn "cynghori pobl i chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion llifogydd sy'n cael eu cyhoeddi yn eu hardaloedd".

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd diweddaraf yn berthnasol i 16 o siroedd Cymru

"Mae ein timau wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno paratoadau a lleihau unrhyw risgiau posib i gymunedau," ychwanegodd.

"Ry'n ni'n gofyn i bobl wirio eu risg am lifogydd ar ein gwefan, sydd hefyd ag ystod eang o wybodaeth ar sut all bobl baratoi ar gyfer llifogydd posib."

Fe ychwanegodd y dylai pobl gofio fod dŵr llifogydd yn "hynod beryglus" ac na ddylai unrhyw un gerdded na gyrru drwyddo oni bai eu bod yn cael cyngor gan y gwasanaethau brys.

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch unrhyw broblemau ar y ffyrdd ar wefan Traffig Cymru, dolen allanol.

Mae'r gwasanaethau brys wedi annog pobl i osgoi gweithgareddau dŵr ac mae 'na rybudd i bobl sy'n cerdded eu cŵn ger ddŵr i'w cadw ar dennyn ac i gerdded yng ngolau dydd.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin eu bod wedi delio â sawl digwyddiad yn gysylltiedig â dŵr neu lifogydd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Pynciau cysylltiedig