Llifogydd mewn rhai mannau wedi oriau o law trwm
- Cyhoeddwyd
Mae glaw trwm dros nos wedi achosi trafferthion i rai mewn mannau yng Nghymru gan gau ffyrdd ac amharu ar wasanaethau trên.
Daeth rhybudd melyn am law dros nos, oedd yn berthnasol i bob rhan o Gymru oni bai am Ynys Môn, Penfro, a'r gogledd ddwyrain, i ben am 03:00 fore Mercher.
Ond mae'r glaw wedi achosi llifogydd mewn ambell le, gan gynnwys ar yr A458 ym Mhowys, a oedd ar gau yn gynharach rhwng Llanfair Caereinion a'r Trallwng, a Phont Dyfi ym Machynlleth.
Bu'n rhaid achub un person o gerbyd o Barc Eco Dyfi ym Machynlleth wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw yno am 08:16.
"Roedd yr alwad 999 gwreiddiol yn datgan bod un cerbyd preifat yn gaeth mewn llifogydd, ond pan gyrhaeddodd y criw roedd cyfanswm o dri yn gaeth," dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Gorllewin a Chanolbarth Cymru.
"Roedd un cerbyd yn dal ag un person y tu mewn, a gafodd ei achub gan griw a gerddodd trwy'r dŵr."
Fe adawodd y criw y safle am 09.56.
Roedd yr M48 dros bont Hafren ar gau dros nos i'r ddau gyfeiriad oherwydd gwyntoedd uchel ond roedd wedi ailagor erbyn bore Mercher.
Problem draffig dra wahanol oedd angen ei datrys ar Ynys Môn wrth i bobl yrru i'r gwaith.
Roedd yna ddefaid yn rhydd am gyfnod ar yr A55, i'r ddau gyfeiriad, rhwng Llangefni a Llanfairpwll ond fe lwyddodd y gwasanaethau brys i'w symud yn ddiogel o'r ffordd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fe wnaeth llifogydd ar y lein amharu ar wasanaethau trên am gyfnod fore Mercher rhwng Pontypridd a Threherbert, ond fe gadarnhaodd Trafnidiaeth Cymru bod pob lein wedi ailagor erbyn oddeutu 09:00.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi sawl rhybudd llifogydd, dolen allanol, gyda'r rhai mwyaf difrifol ym Mhowys - ar hyd Afon Efyrnwy yn ardaloedd Llanymynech, Llansantffraid a Meifod ym Mhowys, a ger Afon Hafren yn ardaloedd Abermiwl a Fron ac Aberbechan.
Erbyn dechrau'r prynhawn dim ond y rhybudd yn ardal Llanymynech oedd yn dal mewn grym.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2023