Cwpan FA Lloegr: Caerdydd 2-2 Leeds United

  • Cyhoeddwyd
Sheyi OjoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Sheyi Ojo wedi hanner awr er mwyn dyblu mantais yr Adar Gleision

Roedd torcalon i Gaerdydd wrth i Leeds United sgorio yn yr eiliadau olaf i'w hatal rhag sicrhau buddugoliaeth gofiadwy yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr ddydd Sul.

Gyda Chaerdydd tua gwaelodion y Bencampwriaeth a Leeds mewn safle tebyg gynghrair yn uwch, y disgwyl oedd y byddai'r ymwelwyr yn trechu'r Adar Gleision yn eithaf cyfforddus, ond nid felly y bu hi.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 24 munud, gyda Jaden Philogene yn rhwydo yn y pendraw ar ôl i ergyd Mark Harris gael ei harbed.

Lai na 10 munud yn ddiweddarach dyblwyd y fantais, wrth i Sheyi Ojo sgorio wedi i Andy Rinomhota godi pas dda i'w lwybr yn y cwrt cosbi.

Wedi 65 munud daeth yr ymwelwyr yn ôl, gyda Rodrigo yn rhwydo gyda pheniad o groesiad Sam Greenwood.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jak Alnwick arbed ergyd Rodrigo o'r smotyn er mwyn cadw Caerdydd ar y blaen

Gyda 10 munud yn weddill cafodd Leeds gic o'r smotyn ac fe welodd Joel Bagan gerdyn coch i Gaerdydd wedi iddo atal gôl bendant trwy lawio ar y llinell gôl.

Llwyddodd Jak Alnwick i arbed ergyd Rodrigo o'r smotyn, ond yn yr eiliadau olaf fe ddaeth yr ymwelwyr yn gyfartal gyda gôl gan Sonny Perkins.

Bydd angen ailchwarae felly, gyda'r gêm honno'n cael ei chwarae yn Leeds ar 17 neu 18 Ionawr.

Pe bai Caerdydd yn fuddugol, byddan nhw'n teithio i herio Boreham Wood neu Accrington Stanley yn y bedwaredd rownd.