Uchafbwyntiau gyrfa Cymru Gareth Bale

  • Cyhoeddwyd

Cafodd Gareth Bale ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Trinidad a Thobago yn Graz, Awstria, ym mis Mai 2006. Ar ddydd Llun, 9 Ionawr, daeth y newyddion ei fod yn ymddeol o chwarae pêl-droed, ac hynny i'w glwb ac i'w wlad.

Dros yr 17 mlynedd fe arweiniodd y gŵr o'r Eglwys Newydd ei wlad i uchelfannau bythgofiadwy - pencampwriaethau Ewrop ddwywaith a Chwpan y Byd 2022.

Bu'n serennu ar lefel clwb hefyd gyda Real Madrid, gan ennill Cynghrair y Pencampwyr bum gwaith, La Liga deirgwaith a'r Copa del Rey unwaith - a sgorio un o'r goliau gorau erioed yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn 2018 i drechu Lerpwl.

Enillodd 111 o gapiau dros Gymru a sgorio 41 o goliau - mwy nag unrhyw ddyn arall yn hanes y tîm. Dyma rhai o goliau mwyaf arwyddocaol Gareth tra'n gwisgo'r crys coch.

Cymru 2-1 Yr Alban

12 Hydref, 2012

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd hon yn gôl arwyddocaol i Gareth Bale ar sawl lefel. Erbyn hyn roedd o wedi dangos ar lefel clwb i Spurs ei fod yn un o ymosodwyr gorau'r byd, ac ymhen llai na blwyddyn fe fyddai wedi arwyddo i Real Madrid am ffi record byd o £85m. Ond roedd hon yn gêm ble ddangosodd o ei allu i ennill gemau bron ar ei ben ei hun i Gymru hefyd.

Yn y gêm ragbrofol hon ar gyfer Cwpan y Byd 2014, fe enillodd o a sgorio'r gic o'r smotyn i unioni'r sgôr yn erbyn Yr Alban, cyn taro ergyd wefreiddiol o 25 llath i gornel ucha'r rhwyd i ennill yr ornest yn y munudau olaf. Roedd o'n gôl bwysig am reswm arall hefyd, gan mai dyma oedd buddugoliaeth cyntaf y tîm dan Chris Coleman ers iddo olynu Gary Speed fel rheolwr dan amgylchiadau trasig. Yn dilyn pedair colled o'r bron, roedd yr adfywiad wedi dechrau o'r diwedd. 

Andorra 1-2 Cymru

9 Medi, 2014

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dechrau ymgyrch Euro 2016, ac roedd 'na obaith yn yr awyr. O orffen yn un o ddau safle uchaf y grŵp byddai'n cyrraedd eu twrnament rhyngwladol cyntaf ers 58 mlynedd. Ac roedd cyfle am dri phwynt agoriadol hawdd i ffwrdd yn Andorra, tîm gwanaf y grŵp. Felly pan aeth Cymru ar ei hôl hi'n gynnar, roedd Chris Coleman eisoes yn poeni y gallai ei ymgyrch - a'i gyfnod yn y swydd - fod ar ben cyn iddyn nhw ddechrau.

Ond daeth Bale i'r adwy, gan unioni'r sgôr gyda pheniad, cyn sgorio cic rydd hwyr i sicrhau'r fuddugoliaeth - roedd rhai o gefnogwyr Cymru wedi cyffroi cymaint nes iddyn nhw redeg ar y cae i ddathlu!

Cymru 1-0 Gwlad Belg

12 Mehefin, 2015

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Cymru mewn lle da yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Euro 2016 pan ddaeth Gwlad Belg i Gaerdydd ym mis Mehefin 2015, gyda thair buddugoliaeth a dwy gêm gyfartal hanner ffordd drwy'r ymgyrch. Ond hon oedd y noson ble wnaethon nhw osod eu stamp go iawn ar y byd pêl-droed, a dangos i ail dîm gorau'r byd ar y pryd eu bod nhw'n gallu herio - a threchu - y cewri mawr.

Bale oedd sgoriwr unig gôl y gêm - un prin gyda'i droed dde - gan fanteisio ar gamgymeriad amddiffynnol i gymryd ei gyfle a llithro'r bêl i gefn y rhwyd. Eiliad fawr, a chanlyniad anferth wnaeth fwy neu lai olygu bod Cymru ar eu ffordd i Ffrainc. 

Cymru 2-1 Slofacia

11 Mehefin, 2016

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n bosib y byddai'r diwrnod heulog hwnnw yn Bordeaux, wrth i anthem Cymru atseinio mewn twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf, wedi bod yn uchafbwynt bywyd i lawer o'r rheiny oedd yno waeth beth oedd y sgôr. Ond fe sicrhaodd Bale fod yr achlysur yn un bythgofiadwy ar y cae hefyd, gan sgorio cic rydd dwyllodrus i roi'r crysau cochion ar ben ffordd yn Ffrainc.

Dim ond dod i weld y tîm yn sgorio gôl oedd nod llawer o'r cefnogwyr - wedi i Bale sicrhau hynny o fewn y chwarter awr cyntaf, fe aeth Cymru ymlaen i fuddugoliaeth dros Slofacia, a rhediad hanesyddol i'r rownd gynderfynol.

Cymru 1-0 Wcráin

5 Mehefin, 2022

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dyma ni, un gêm i ffwrdd o'r wobr fawr - lle yng Nghwpan y Byd. Roedd goliau Bale eisoes wedi helpu'r tîm i gyrraedd y pwynt yma, gan gynnwys hat-tric yn erbyn Belarws a'r ddwy yn y rownd gynderfynol yn erbyn Awstria. Ond yn erbyn Wcrain fe ddaeth y pwysicaf ohonyn nhw oll - a'r meistr ciciau rhydd unwaith eto yn dangos fod treigl amser heb bylu ei ddawn i fanteisio ar gyfleoedd o'r fath.

Dim ots am y gwyriad oddi ar Andriy Yarmolenko i'w hebrwng i gefn y rhwyd - roedd Bale unwaith eto wedi sgorio'r gôl orfoleddus, hollbwysig a Stadiwm Dinas Caerdydd yn ferw gwyllt. Dim ond un eiliad well oedd i ddod - clywed y chwiban olaf, a gwlad yr addewid wedi ei chyrraedd o'r diwedd. 

Cymru 1-1 UDA

21 Tachwedd, 2022

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth ymgyrch Cymru yn Qatar orffen yn siomedig - ond peidiwch â gadael i hynny dynnu oddi wrth beth oedd yn foment a chanlyniad hanesyddol yn yr ornest agoriadol yn erbyn yr UDA. O'r diwedd roedd Cymru yn chwarae ar y llwyfan mawr, a Bale (er nad oedden ni'n gwybod ar y pryd) yn cael gorffen ei yrfa ddisglair ar y pinacl uchaf.

Ac er nad oedd o bellach yn chwarae gyda'r un egni a swanc â'i ddyddiau ifanc, roedd ganddo alluoedd gwahanol bellach - y clyfrwch i ennill y gic o'r smotyn, ac yna'r pen profiadol, pwyllog, penderfynol i gladdu'r gic o'r smotyn i sicrhau gôl a phwynt cyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd.

Roedd hi'n foment fythgofiadwy o lawenydd i'r rheiny yn Doha ac i bawb oedd yn gwylio o adref, ac yn ffordd addas i orffen gyrfa'r chwaraewr gorau erioed i wisgo crys coch Cymru.