Gareth Bale: Yr ystadegau tu ôl i'w ddylanwad anhygoel
- Cyhoeddwyd
Ar ôl 17 mlynedd o yrfa all ond gael ei ddisgrifio fel yr un disgleiriaf, mwyaf llwyddiannus yn hanes pêl-droed Cymru, mae oes Gareth Bale ar ben.
Cyn i'r mab darogan o'r Eglwys Newydd gamu i'r llwyfan, roedd Cymru ond wedi cyrraedd rowndiau terfynol un twrnament rhyngwladol yn eu hanes - Cwpan y Byd 1958.
Erbyn iddo adael, roedd o a gweddill y genhedlaeth aur wedi sicrhau dau ymddangosiad ym Mhencampwriaethau Ewrop - gan gynnwys haf hudolus Euro 2016 - a chyrraedd Cwpan y Byd 2022.
Ond beth mae'r ystadegau yn ei ddweud wrthyn ni am wir ddylanwad Bale ar y cae? A faint o golled fydd ar ei ôl?
Goliau cyson
Mae'r ffeithiau sylfaenol yn adrodd cyfrolau'n barod.
111 cap, a 41 gôl - y naill ystadegyn a'r llall yn record i dîm dynion Cymru - a llwyddiant aruthrol ar lefel clwb hefyd.
Dim ond Cristiano Ronaldo sydd wedi sgorio mwy o goliau mewn ffeinalau Cynghrair y Pencampwyr na'r dair sydd gan Bale; y gŵr o Gaerdydd sgoriodd y gôl fuddugol i gipio unig Copa del Rey Real Madrid yn y degawd diwethaf; ac fe sgoriodd 81 o goliau yn La Liga wrth iddo ennill y gynghrair yn Sbaen dair gwaith.
Ond yng nghrys coch Cymru y bu fwyaf dylanwadol ar ei dîm, heb os.
Dros ei yrfa gyda Chymru fe sgoriodd, ar gyfartaledd, unwaith bob 210 munud yr oedd ar y cae.
Fe greodd 22 o goliau dros Gymru yn ystod ei yrfa hefyd, gan olygu ei fod yn sgorio neu greu gôl dros ei wlad unwaith bob 137 munud - neu gêm a hanner.
Roedd dibyniaeth Cymru arno ar gyfer y goliau'n amlwg i'w weld - er gwaethaf y cwynion o dro i dro pan oedd y wasg Brydeinig neu gefnogwyr gwledydd eraill yn awgrymu bod Cymru'n 'dîm un dyn'.
Pan oedd ar y cae, fe sgoriodd 33% o goliau'r tîm - o ychwanegu'r rhai a greodd hefyd, roedd yn gyfrifol am dros hanner y goliau.
Mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys ei gyfnod cynnar rhwng 2006-2010 dan John Toshack pan oedd yn dal i ddatblygu ei gêm, ac yn chwarae'n amlach fel amddiffynnwr.
Ar ei orau - rhwng 2011-2016 - fe sgoriodd neu greu 65% o'r goliau tra'i fod ar y cae, ac hyd yn oed yn ei gyfnod hwyrach roedd y canran hwnnw dal mor uchel â 57%.
Yn syml, os oedd angen goliau, Bale yn amlach na pheidio oedd yn gyfrifol am eu darparu.
Doedd chwaraewyr eraill ddim wir yn camu i'r adwy i ysgwyddo'r baich hwnnw chwaith pan nad oedd Bale ar gael.
Fe fethodd Bale 49 o gemau dros Gymru ers ennill ei gap cyntaf - 31% o'r cyfanswm y gallai fod wedi chwarae - a bron pob un o'r rheiny oherwydd anafiadau.
Gyda Bale yn y tîm fe enillodd Cymru 46% o'u gemau - hebddo roedd y canran hwnnw'n disgyn i 27%.
Roedd y gwahaniaeth yna ar ei amlycaf yn ei oes aur rhwng 2011-2016, pan enillon nhw hanner eu gemau gydag o, a dim ond un o bob saith hebddo.
Byddai goliau tîm Cymru'n llifo unwaith bob 69 munud gyda Bale ar y cae - pan nad oedd o, dim ond unwaith bob 129 munud y bydden nhw'n canfod cefn y rhwyd.
Y goliau pwysicaf
Roedd Gareth Bale hefyd yn chwaraewr, heb os, ar gyfer yr eiliadau mawr.
Roedd 20 o'i 41 gôl yn rhai wnaeth newid canlyniad y gêm i Gymru, gydag wyth o'r rheiny yn goliau buddugol i ennill gemau.
Yn eu plith roedd yr ergyd dyngedfennol yn erbyn Wcráin i sicrhau bod Cymru'n cyrraedd Cwpan y Byd, a goliau buddugol yn erbyn Andorra, Gwlad Belg a Chyprus yn ymgyrch ragbrofol Euro 2016.
Fe newidiodd ei ddylanwad rywfaint wrth iddo agosáu at ddiwedd ei yrfa, er i'r goliau barhau i ddod.
Yn rhan ganol ei yrfa fe sgoriodd 23 o'i goliau, a chreu wyth - ond daeth yn fwy creadigol o 2017 ymlaen, gan sgorio 15 a chreu 11.
Fe barhaodd ei gyfraniadau hyd y diwedd, hefyd.
Yn y saith gêm ragbrofol a chwaraeodd i gyrraedd Cwpan y Byd 2022, fe sgoriodd chwech a chreu tair arall, gan fethu â chyfrannu mewn dim ond un o'r gemau.
Bydd Cymru hefyd yn methu ei allu o giciau gosod yn arw.
Dros ei yrfa fe sgoriodd wyth cic rydd a saith cic o'r smotyn dros Gymru, gan gynnwys rhai o goliau mwyaf eiconig ei yrfa - gemau ail gyfle Cwpan y Byd, ei olaf yn erbyn yr UDA yn Qatar, a Bordeaux yn Euro 2016.
Hebddo bydd angen i eraill gamu i'r bwlch - mae Aaron Ramsey, Kieffer Moore a Brennan Johnson ymhlith y rheiny sy'n gyfarwydd â chymryd ciciau o'r smotyn, tra bod Harry Wilson yn ddawnus ar giciau rhydd.
Ond dydy'r un ohonyn nhw'n ysbrydoli'r un ofn ymhlith amddiffynwyr pan maen nhw dros y bêl ag yr oedd Gareth Bale.
'Chwaraewr chwedlonol'
Ar y cae felly, does dim amheuaeth y bydd Bale yn gadael bwlch.
Mae'r tîm wedi dibynnu arno am dros ddegawd ar gyfer y goliau, a phan nad ydy o'n chwarae, mae'r canlyniadau bron yn llythrennol ddim hanner cystal.
Ond, wrth gwrs, mae 'na bethau eraill nad oes posib eu mesur mewn ystadegau.
Ei ddylanwad ar y garfan oddi ar y cae, yr ysbrydoliaeth a roddodd i Gymru fel cenedl - a'r adnabyddiaeth ehangach o'n gwlad ni dramor diolch i'w orchestion pêl-droed.
Felly fe wnawn ni adael y gair olaf i'w reolwr olaf, Rob Page.
"Mae e jyst yn berson anhygoel. Anghofiwch y pêl-droed am funud, does 'na neb all gymryd ei le.
"Roedd ganddo gymaint o bresenoldeb yn yr ystafell newid, sy'n bwysig iawn ar gyfer yr awyrgylch.
"Mae wedi bod yn eicon, yn chwaraewr chwedlonol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023